Lyn Llys-y-frân yn Sir Benfro.

Llyn Llys-y-frân

Logi Beics

• DARLLEN MWY •

Llyn Llys-y-frân

Pysgota

• DARLLEN MWY •

Llyn Llys-y-frân

Gwersylla

• DARLLEN MWY •

Llyn Llys-y-frân

Crazi Bugz

Eich Dihangfa yn Sir Benfro

Gan Dŵr Cymru

Croeso i Lyn Llys-y-frân yn Sir Benfro.


Dewch i fwynhau ein canolfan ymwelwyr ar ei newydd wedd, caffi, gwersylla, hyb beicio newydd, beicio mynydd, ardal sgiliau pympio, llwybrau cerdded, gweithgareddau ar y dŵr ac ar dir sych, pysgota a maes chwarae antur.

Dewiswch Eich Antur Dŵr Cymru Heddiw


Anturiaethau Dŵr

Gallwch ‘dalu i chwarae’ naill ai trwy hunan-lansio neu trwy logi un o’n rhwyf-fyrddau, canŵs neu gaiacs. Fel phartner darparu Canŵio Prydain, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau hwylio, padlo a chychod pŵer achrededig.

• MANYLION PELLACH •

Anturiaethau ar y Tir

Mae gennym amrywiaeth gyffrous o weithgareddau tir sych ar gyfer pobl o bob oedran a gallu. Dysgwch grefft hynafol taflu bwyeill neu rhowch gynnig ar saethyddiaeth. Taclwch ein wal ddringo 7m, neu llogwch feic a rhowch gynnig ar ein trac pwmpio neu mwynhewch wefr un o’n llwybrau beicio mynydd. A bydd y plant wrth eu bodd ar y Crazi-Bugz, ein cerbydau diarffordd bach trydan.

• MANYLION PELLACH •

Y Maes Gwersylla

rhoswch gyda ni i wersylla am ychydig nosweithiau neu wyliau hirach yn Llys-y frân a mwynhau llonyddwch perffaith yr hafan wledig yma wrth galon Sir Benfro. Mae ein gwersyll yn edrych dros y llyn ac mae’n cynnig safleoedd glaswellt a chaled o safon uchel, y mae gan lawer ohonynt gysylltiad trydan.

• MANYLION PELLACH •

Bywyd Gwyllt a Byd Natur

Gallwch ymgolli ym myd natur trwy ddilyn ein teithiau cerdded bendigedig o amgylch ein hystâd brydferth.

• MANYLION PELLACH •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Lle gwych i ddechrau eich Antur Dŵr Cymru. Gyda chaffi, siop anrhegion ac ystafelloedd i’w llogi. Mae ein maes chwarae antur i’r plant a’r ardal ymarfer i’r cŵn yn boblogaidd dros ben.

• MANYLION PELLACH •

Pysgota

Mae pysgota yn Llys-y-fran yn bleser i bysgotwyr profiadol a’r rhai sy’n newydd i bysgota – yn enwedig pysgota â phlu.

• MANYLION PELLACH •
ERDF EU Welsh Government Funding Logo

Agorodd Llys-y-frân i’r cyhoedd yn 2021 ar ôl i fuddsoddiad pwysig o £4 miliwn gael ei ategu gan werth £1.7 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw’r hawl i gau safle Llys-y-frân yn llwyr neu’n rhannol, cyfyngu ar fynediad at y dŵr neu ganslo gweithgaredd unrhyw bryd os yw’n credu bod yna amodau anaddas neu risgiau na ellir eu rheoli.

Mae diogelwch o’r pwys mwyaf yn ein holl weithgareddau Ond mae chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran eu natur, ac mae yna risgiau.

Rhaid i gwsmeriaid gydymffurfio â’r holl reoliadau diogelwch ac â chyfarwyddiadau tîm Llys-y-frân bob amser.

Mae croeso cynnes i gŵn yn Llys-y-frân bob amser, ond hoffem atgoffa ymwelwyr taw’r Ardal Ymarfer Cŵn yw’r unig fan lle gellir cadw cŵn oddi ar eu tennyn. Dylid cadw cŵn ar dennyn ym mhob man arall – gan gynnwys y llwybr sy’n amgylchynu’r gronfa – ac allan o’r dŵr.

Nid pob gweithgaredd sy’n digwydd pob dydd ac mae yna amrywiadau tymhorol. Chwiliwch ar y wefan i weld a oes llefydd ar gael a bwciwch y gweithgareddau ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.

Llogi Beics Penwythnosau

Llogi cwch pysgota Ddim ar gael

Gweithgareddau Dŵr Ddim ar gael

Gweithgareddau Tir Sych Ddim ar gael

Amserlen Gweithgareddau’r Gaeaf Rhagfyr 2025

Gweithgareddau Tir Sych

Ddim ar gael

Llogi Beics

Ddim ar gael

Llogi Cychod Pysgota

Dydd Mercher – Dydd Sul yn unig

Gweithgareddau Dŵr

Ddim ar gael dros y gaeaf (yn ailagor ym mis Mawrth 2026).

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR