Adar Llyn Llys-y-Frân - Dwr Cymru

Hafan i

Adarydda

yn Llyn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Adar Llyn Llys-y-Frân


Mae’r cymysgedd o gynefinoedd fferm, coetir, prysgwydd a glan dŵr yn golygu bod yr ardal yma’n denu pob math o adar. Mae’r lle wir yn haeddu’r enw Llys-y-Frân. Cadwch lygad yn agored am y brain, a gwrandewch am eu crawcian yn ystod eich antur, maen nhw’n gallu bod yn swnllyd dros ben crawc crawc!

Cadwch lygad am y rhain…

Adar Llys-y-Frân – Trwy’r Flwyddyn

Yn y Coetir Delor y cnau, titw tomos las, titw mawr, titw penddu, titw cynffon-hir, dryw melyn cribog, dringwr bach, dryw, ji-binc, coch y berllan, pila gwyrdd, llwyn y gwrych, robin, bronfraith, brych y coed, aderyn du, cnocell fraith fwyaf, ysguthan, gwalch glas, bwncath, hebog tramor, barcud coch, cigfran, brân dyddyn, sgrech y coed, ydfran a jac y do. Mae’r dylluan fraith i’w gweld gyda’r cyfnos.

Ar y Dŵr: Clwych fawr gopog, clwych fach, mulfran, hwyaden wyllt, crëyr glas, cwtiar. Mae yma haid fawr o wyddau Canada gwyllt, ynghyd ag ambell i ŵydd gwyllt arall.

Ar y cyrion: Pied wagtail, grey wagtail, kingfisher and dipper may be seen along the streams that enter the lake. Reed bunting, goldfinch, linnet and meadow pipits in the surrounding rough grassland and hedges.


Adar Llys-y-Frân – Gwanwyn / Haf

Siff saff, telor yr helyg, tingoch, gwybedog brith, gwennol, gwennol y bondo a gwennol y glennydd.


Adar Llys-y-Frân – Hydref / Gaeaf

Mae’r coch dau-aden a’r socan eira’n cyrraedd yn y misoedd oerach i fwydo ar fwyar y ddraenen wen a’r griafolen.

Os yw lefel y dŵr yn isel yn yr hydref, mae’n bosibl gweld pibydd y tywod ac yn achlysurol pibydd coeswerdd ar gyrion y gronfa ac o dan wal yr argae.

Mae hwyaid yn bwydo ar y llystyfiant dyfrol yn y baeau bas ynghyd â nifer fechan o chwiwellau, corhwyaid a throchyddion fel yr hwyaden lygad aur a’r hwyaden gopog. O bryd i’w gilydd rydyn ni’n croesawu glwychiaid mwy prin, fel y glwych Slafonaidd, ac yn fwy prin, y trochwyr mawr gogleddol.

Ar nosweithiau gaeafol, mae’r gwylanod yn clwydo yma yn eu miloedd. Gwylanod cefnddu lleiaf yw’r rhan fwyaf o’r rhain, er bod nifer lai o wylanod penddu. Mae gwylanod y penwaig, gwylanod y gweunydd a gwylanod cefnddu mwyaf yn gyffredin yma. Gellir gweld gwylanod melyngoes, gwylanod môr y canoldir, gwylanod gwlad yr iâ a gwylanod y gogledd yma’n achlysurol hefyd.

Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt a Byd Natur

Bywyd Gwyllt a Byd Natur yn Llys-y-Frân

Diolch i’r cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr, mae Llyn Llys-y-Frân yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a natur.

• MENYLION PELLACH •

Dyfrgwn

Mae Llys-y-Frân yn gynefin pwysig ar gyfer dyfrgwn oherwydd ansawdd uchel dŵr y llyn, y ffynonellau toreithiog o fwydydd amrywiol sydd ar gael iddynt, a’r llystyfiant ar y glannau.

• MENYLION PELLACH •

Ffwlbartiaid

Cafodd y ffwlbart, anifail bach ag wyneb tebyg i leidr pen-ffordd, ei erlyn gymaint ar un adeg nes y bu ond y dim iddo ddiflannu o’r DU.

• MENYLION PELLACH •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU