Mae nifer gynyddol o Anturiaethau Dŵr Cymru eraill i’w cael ar draws Cymru.
Dan berchnogaeth a gofal Dŵr Cymru, mae ein Hatyniadau Ymwelwyr yma i chi eu mwynhau. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn nhw sy’n eich ailgysylltu â’r awyr agored a’r dŵr. Fe’u lleolir yn rhai o’r lleoliadau mwyaf trawiadol ac maen nhw’n cynnig mynediad am ddim ac yn agored trwy’r flwyddyn.
Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru nesaf chi.
Mae Dŵr Cymru’n gweithredu 91 o gronfeydd dŵr sy’n amrywio o ran maint o 2 i 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio cenedlaethol o Atyniadau Ymwelwyr o’r enw ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn nhw a’u nod yw ailgysylltu pobl â’r dŵr a’r amgylchedd wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob safle.
Dŵr Cymru yw’r mwyaf ond pump o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. Fel cwmni ‘nid-er-elw’ nid oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo. Mae unrhyw elw ariannol yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.
Wrth galon Mynyddoedd Cambria, mae prydferthwch Cwm Elan yn ymestyn dros 72 milltir sgwâr o olygfeydd godidog. Mae’r dirwedd naturiol, sy’n gartref i fwrlwm o blanhigion a bywyd gwyllt hyd yn oed yn fwy arbennig diolch i’w argaeau o Oes Fictoria, y cronfeydd dŵr a’r Ganolfan Ymwelwyr groesawgar. Fel Parc Awyr Dywyll Rhyngwladool, mae prydferthwhc naturiol Cwm Elan yn disgleirio ddydd a nos.
Wrth galon cefn gwlad prydferth Dyffryn Wysg, cwta 20 milltir o Gaerdydd, Llyn Llandegfedd yw’r lle perffaith i fwynhau chwaraeon dŵr, pysgota, cerdded, gwylio bywyd gwyllt a chael picnic. Atyniad ymwelwyr lle mae croeso cynnes i gŵn, a chroeso iddyn nhw ddod i fwynhau’r golygfeydd godidog o falconi’r bwyty neu orffwys eu pawennau yn y caffi coffi cyflym newydd.
Safle arbennig o goedwigoedd â physgodfa brithyll, lle llogi beics, maes chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chaffi â golygfeydd di-ben-draw o’r balconi. Mae Llyn Brenig yn gartref i weilch prin sy’n nythu ar y safle rhwng Ebrill ac Awst. Gyda 23km o lannau sy’n ymestyn o gwmpas un o ddyfroedd mewndirol mwyaf Cymru, mae’n gydnabyddedig fel un o’r pysgodfeydd pen dŵr gorau yn y DU.
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i greu hyb ar gyfer iechyd a lles, wrth amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth y safle. Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn adnodd naturiol o bwys ecolegol sylweddol ac mae’n cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y naill am ei ffwng cap cwyr a’r llall am yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno. Mae sesiynau nofio dŵr agored yn rhan o’r rhaglen chwaraeon dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llanisien, sy’n cynnwys hwylio, canŵio caiacio a rhwyf-fyrddio hefyd. Mae ein canolfan ymwelwyr deulawr newydd sbon yn cynnig golygfeydd godidog dros y cronfeydd ynghyd â phrofiad bwyd neilltuol.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gymunedau a sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn creu hybiau ar gyfer hamdden, iechyd a lles. Mae hyn yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru.
Lleolir Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi ar gyrion Llanelli yn Sir Gâr, mewn lleoliad prydferth a phoblogaidd. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi mabwysiadu’r safle’n ddiweddar yn rhan o gynllun mabwysiadu cymunedol arloesol.
Mae Cronfeydd Dŵr Lliw yn safle o brydferthwch naturiol eithriadol ac yn rhan o Barc Gwledig y Cymoedd, un o’r ardaloedd tirwedd arbennig sy’n diffinio Cymru. Mae caffi, siop fach a thoiledau ar y safle.
Llyn Alaw yw’r corff mwyaf o ddŵr croyw ym Môn. Mae’r safle o ddiddordeb mawr i adaryddwyr ac mae’n SoDdGA diolch i’r adar gwyllt sy’n treulio’r gaeaf yno fel corhwyaid, hwyaid llydanbig ac elyrch gwyllt.
Casgliad ehangaf y DU o bympiau a pheiriannau gweithredol o bob rhan o Sir Henffordd, y siroedd cyfagos a Chymru, a’r rhan fwyaf ohonynt yw’r olaf o’u math sy’n dal i weithio.
Mae Llyn Brianne’n un o naw Safle Darganfod yr Awyr Dywyll o Safon Llwybr Llaethog ym Mryniau Cambria, lle mae’r awyr gyda’r mwyaf tywyll yn Ewrop.