Er mwyn amddiffyn Llys-y-frân a chyrff dŵr eraill rhag rhywogaethau estron niweidiol ac afiechydon dyfrol, rhaid i bawb sy’n cymryd rhan ddilyn canllawiau bioddiogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl eu sesiwn gweithgareddau dŵr.
Cyrhaeddwch gydag offer a dillad glân a sych.
Sicrhewch nad yw siwtiau gwlyb, dillad nofio, cymhorthion hynofedd, esgidiau a thywelion wedi cael eu defnyddio mewn corff dŵr arall heb eu golchi a’u sychu.
Chwiliwch mewn pocedi, sipiau, Velcro, lasys a chyflau i sicrhau nad oes unrhyw fwd, planhigion neu organebau bach yn llechu yno.
Defnyddiwch esgidiau dŵr pwrpasol lle bo modd.
Os ydych chi’n credu y gallai’ch offer fod wedi eu halogi, dywedwch wrth y staff – byddan nhw’n ynysu ac yn delio â’r offer os oes angen.
Dylid golchi offer a’i sychu am o leiaf 48 awr cyn ei ddefnyddio mewn lleoliad arall yn gyson â’r drefn Gwirio Golchi Sychu isod.
Ewch i’r dŵr yn y mannau dynodedig yn unig.
Peidiwch â symud offer na chymhorthion hynofedd i fannau nad ydynt wedi eu dynodi ar gyfer gweithgareddau dŵr.
Peidiwch ag ymyrryd â phlanhigion, anifeiliaid na sediment.
Peidiwch ag ymyrryd â phlanhigion, anifeiliaid na sediment.
Tynnwch unrhyw fwd, planhigion a malurion y gwelwch chi o’ch holl offer a dillad.
Golchwch yr holl offer a dillad yn drylwyr gan ddefnyddio dŵr poeth neu ddiheintiwr lle bo modd. Rhowch sylw arbennig i semau, crychau a Velcro. Argymhellir yn gryf eich bod chi’n cael cawod ar ôl y sesiwn.
Sychwch bopeth yn llwyr cyn ei ddefnyddio eto, am o leiaf 48 awr yn ddelfrydol. Peidiwch â storio offer llaith.
Peidiwch byth â throsglwyddo dŵr, planhigion neu anifeiliaid i safle arall.
Mae bioddiogelwch yn berthnasol hyd yn oed ar ôl cyfnod byr o gysylltiad.
Mae bioddiogelwch yn berthnasol hyd yn oed ar ôl cyfnod byr o gysylltiad.
Noder na chaniateir defnyddio unrhyw fath o gemegolion glanhau lle gallent lifo i mewn i’r llyn.
Mae Llyn Llys-y-frân yn safle dynodedig ar gyfer amddiffyn ecoleg a dŵr crai. Mae’n rhan o ACA Afonydd Cleddau ac yn Barth Diogelu dynodedig ar gyfer ansawdd dŵr mewn perthynas ag algâu, maethynnau, blas ac arogl.
Mae Llys-y-frân yn cyflenwi Gweithfeydd Trin Dŵr y Preseli, sy’n gwasanaethu dros 117,000 o eiddo cwsmeriaid, â dŵr crai.
Mae rhywogaethau estron goresgynnol ac afiechydon dŵr yn gallu lledu trwy ddŵr, mwd ac offer llaith. Ar ôl eu cyflwyno, mae hi’n anodd dros ben cael gwared arnynt, a gallant achosi difrod difrifol i fywyd gwyllt lleol, ansawdd y dŵr, a defnyddiau hamdden.
Trwy ddilyn y canllawiau hyn, byddwch chi’n helpu i amddiffyn bywyd gwyllt, yn diogelu ansawdd y dŵr, ac yn cadw Llys-y-frân yn agored ac yn ddiogel i bawb. Diolch am chwarae eich rhan.
Am ragor o fanylion, ewch i Check Clean Dry (gwefan allanol).