Y Coetir
Wrth gerdded, fe welwch chi fod y goedwig yn frith o goed derw digoes, gyda chymysgedd da goed fel yr ynn, bedw, cerdin, celyn, gwern a helyg. Mae clychau’r gog yn gorchuddio llawr y goedwig yn y gwanwyn. Gelwir y coedwigoedd hyn weithiau’n ‘fforestydd glaw tymherus’ neu’n ‘fforestydd glaw Iwerydd’. Ar un adeg, byddai’r rhain wedi gorchuddio arfordir Ewrop â môr Iwerydd diolch i’r aer cynnes a llaith oedd yn chwythu i mewn o’r môr. Mae’r coed derw wedi eu gorchuddio â choedredyn, mwsogl a chen. Mae’r rhywogaethau hyn yn sensitif iawn i lygredd, felly mae eu presenoldeb yn arwydd o aer glân.
Dalgylch Afon Cleddau
Mae Llyn Llys-y-Frân yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) Afonydd Cleddau, a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Afon Cleddau Ddu. Mae’r dynodiad AGA yn cwmpasu sianel yr afon a chorff dŵr y gronfa ddŵr yn unig. Mae’r SoDdGA yn cwmpasu sianel yr afon, corff dŵr y gronfa a llawer o’r cynefinoedd sy’n amgylchynu’r gronfa ddŵr, gan gynnwys y coetiroedd a rhai o’r glaswelltiroedd a’r prysgwydd.
Mae’r llyn yn rhan o Lwybr Cleddau.
Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt a Byd Natur
Dyfrgwn
Rydych chi’n fwy tebygol o weld dyfrgi yn y DU heddiw nag erioed o’r blaen, ond maen nhw’n swil iawn ac yn rhai da am guddio.
• MANYLION PELLACH •Adar
Am fod cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr yn Llys-y-Frân, mae’r ardal yn denu amrywiaeth eang o adar.
• MANYLION PELLACH •Ffwlbartiaid
Cafodd y ffwlbart, anifail bach ag wyneb tebyg i leidr pen-ffordd, ei erlyn gymaint ar un adeg nes y bu ond y dim iddo ddiflannu o’r DU.
• MANYLION PELLACH •