Paratowch at eich Antur
Cael Picnic
Dewch â’ch picnic eich hun neu archebwch un o’r caffi ymlaen llaw. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael gan gynnwys brechdanau, byrbrydau a diodydd, gydag opsiynau iachus a llysieuol. Ffordd ddidrafferth o fwyta yn yr awyr agored. Ymlaciwch wrth un o’r byrddau picnic ar lan y llyn neu gosodwch eich blanced ar y glaswellt a mwynhewch y wledd.
Bwciwch Farbeciw
Mae sawl safle barbeciw ar gael i chi eu llogi am ddiwrnod cyfan. Mae pob un wrth ymyl bwrdd picnic er hwylustod, a byddant ar gael i chi a neb arall am ddiwrnod cyfan. Os nad ydych am dreulio amser yn paratoi, gallwch archebu pecyn barbeciw o’n caffi ymlaen llaw, a’i gasglu wrth gyrraedd. Mae amrywiaeth o gigoedd ar gael, dewisiadau llysieuol neu cewch gymysgu’r ddau. Daw ein cig o safon gan gigyddion lleol i chi ei goginio ar y safle. A’r peth gorau un yw nad es angen trafferthu glanhau’r gril wedyn! Wrth archebu bwyd, cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw ofynion dietegol.