Llys-y-frân -Canllawiau Mynediad

Llys-y-frân Lake

Canllawiau Mynediad

Eich Dihangfa yn Sir Benfro

Gan Dŵr Cymru

Canllawiau Mynediad


Nid yw’r canllaw mynediad yn cynnwys unrhyw farn bersonol o ran pa mor addas ydyn ni ar gyfer pobl ag anghenion mynediad. Ei nod yw disgrifio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn Llys-y-frân yn gywir er mwyn helpu pob ymwelydd, gan gynnwys y rhai ag anableddau, i gynllunio eu hymweliad.

Consesiynau


Cynigir 10% o ddisgownt ar weithgareddau ac yn y caffi a’r siop (heblaw am alcohol) i’r bobl ganlynol:

Staff y GIG a’r Gwasanaethau Brys

Cyn-aelodau’r Lluoedd

Gofalwyr

Myfyrwyr


Parcio am ddim i bobl â Bathodyn Glas (gweler isod).

Cyfarwyddiadau


Am gyngor ar sut i gyrraedd Llys-y-frân, gan gynnwys ar gludiant cyhoeddus, ewch i’n tudalen Ble Ydyn Ni.

Y Maes Parcio


Mae chwe lle parcio ar gael i bobl ag anableddau. Caiff pobl â Bathodyn Glas barcio am ddim drwy’r dydd. Cofiwch gofnodi rhif cofrestru eich car wrth y dderbynfa.

Mae hawlenni parcio blynyddol am ddim ar gael i bobl â Bathodyn Glas eu defnyddio ar un cerbyd – holwch wrth y dderbynfa.

Mae arwyneb y maes parcio’n anwastad mewn mannau oherwydd graean a cherrig mân.

Mae tai bach y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr mewn adeilad gyferbyn â’r Maes Marcio, gyda thoiledau wedi eu gwahanu yn ôl rhywedd.

Mae’r maes parcio tua 50 metr o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Disabled parking at Llys-y-frân
Path from car park to visitor centre at Llys-y-frân
Car park toilet block at Llys-y-frân

Y Ganolfan Ymwelwyr


Mae’r brif fynedfa i’r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd ramp mynediad hir sy’n dringo’n raddol, ac mae yna ganllaw. Mae grisiau hefyd.

Mae drysau dwbl awtomatig yn agor i’r ardal groeso, sy’n cynnwys desg wybodaeth a siop anrhegion.

Mae’r ddesg wybodaeth/derbynfa yn union o flaen prif fynedfa’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae hi mewn ardal fwy tawel o’r adeilad, draw wrth y caffi.

Steps leading to visitor centre at Llys-y-frân
Sloped path leading to visitor centre at Llys-y-frân
Front entrance of visitor centre at Llys-y-frân
Looking through front doors of visitor centre into the reception area at Llys-y-frân

Mae’r ddesg wybodaeth ar ddwy lefel. Mae’r rhan uchaf 110cm o uchder.

Mae rhan isaf y ddesg 77cm o uchder ac mae yna le clir o dan y ddesg fel y gellir mynd yn agos ati mewn cadair olwyn neu â chymorth symudedd.

Mae yna nifer o fynedfeydd ochrol aml-ris o’r patio i’r Ganolfan Ymwelwyr.

Front desk in visitor centre reception at Llys-y-frân
Side entrance of visitor centre from reception area at Llys-y-frân
Lobby area in visitor centre at Llys-y-frân
Side entrance of visitor centre from cafe at Llys-y-frân

Gellir cyrraedd y patio heb risiau o flaen yr adeilad. Ym mhen pellaf y patio, mae yna risiau sy’n arwain i lawr at lwybr sy’n mynd o amgylch y safle. Gellir cyrraedd y llwybr heb risiau o flaen y Ganolfan Ymwelwyr.

The patio outside the visitor centre at Llys-y-frân
Patio outside the visitor centre at Llys-y-frân
Steps leading from the patio at Llys-y-frân
Steps leading to patio outside the visitor centre at Llys-y-frân

Yn y Ganolfan Ymwelwyr


Mae’r Ganolfan Ymwelwyr gyfan ar lefel wastad heb risiau.

Arwyneb llyfn o fath linoliwm yw’r llawr ym mhob rhan o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Palmant concrit yw arwyneb y patio allanol.

Mae lled lleiaf y drysau a’r mannau y tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr yn addas i gadeiriau olwyn.

Mae pob drws sengl o leiaf 87cm o led.

Mae yna arwyddion cyfeirio clir ym mhob rhan o’r adeilad, gan gynnwys arwyddion cyferbynnedd uchel i’r toiledau.

Mae’r tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr wedi ei oleuo’n dda, a gellir addasu’r goleuadau.

Looking through front doors of visitor centre into the reception area at Llys-y-frân
The lobby area between reception and cafe in the visitor centre at Llys-y-frân
Entrance to the cafe from reception at Llys-y-frân
The cafe at Llys-y-frân

Toiledau


Mae tai bach y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr mewn adeilad gyferbyn â’r Maes Marcio, gyda thoiledau wedi eu gwahanu yn ôl rhywedd.

Y tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr, mae’r toiledau oll mewn un ardal ger mynedfa’r caffi.

Mae gan yr holl doiledau un drws â botwm gwthio, ac maent yn agor am i mewn.

Mae yna doiledau ar wahân i wrywod a benywod.

Mae yna un toiled hygyrch neillryw hefyd sy’n cynnwys bwrdd newid cewynnau babis.

Mae cortyn larwm coch sy’n cyrraedd y llawr a’r canllaw yn y toiled hygyrch.

Mae toiled, cawod a chyfleusterau newid hygyrch yn y Ganolfan Gweithgareddau, sydd tua 100m o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Entrance to access toilet with push button access in the visitor centre at Llys-y-frân
Accessible toilet at Llys-y-frân
Entrance to access toilet with pass-over automatic access in the visitor centre at Llys-y-frân
Car park toilet block at Llys-y-frân

Yr Ystafelloedd Cyfarfod/Digwyddiadau


Mae gan Llys-y-frân ystafell gyfarfod ac ystafell ddigwyddiadau fawr sydd ar gael i’w llogi.

Mae gan yr ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau ddrysau dwbl sy’n agor â llaw, ac mae arwyneb llyfn ar y llawr.

The meeting and function rooms have manual double doors, and the flooring is a smooth surface.

Meeting room in visitor centre at Llys-y-frân
Function room in visitor centre at Llys-y-frân
Function Room at Llys-y-fran
Room for hire

Y Caffi


Mae’r caffi’n fawr ac wedi ei oleuo’n dda.

Mae yna banel gwydr ar y dde wrth fynd i mewn i’r caffi.

Mae drysau dwbl sy’n agor â llaw allan i’r patio.

Mae ymwelwyr yn archebu wrth y cownter. Gall staff gludo bwyd a diod i’r bwrdd.

Mae’r caffi’n gallu bod yn swnllyd ar adegau prysur, ond mae yna seddi ychwanegol ar y patio neu wrth ymyl y siop anrhegion.

Mae dewis o fyrddau a chadeiriau o wahanol uchder a math.

Mae bwydlenni ar gael ar y byrddau ac ar y sgrin uwchben y man talu.

Mae bwyd heb glwten / heb gynnyrch llaeth / figan ar gael ac wedi ei labelu.

Llys-y-frân caffi
Example of cafe menu at Llys-y-frân
Example of food and drink display in cafe at Llys-y-frân
Visitors seated at table in cafe in the visitor centre at Llys-y-frân

Y Ganolfan Gweithgareddau


Mae’r ganolfan gweithgareddau’n hollol hygyrch â mynediad ar hyd ramp heb risiau a drysau llydan i ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae toiledau ac ystafelloedd newid hygyrch ar gael y tu fewn i’r ganolfan gweithgareddau, gyda chyfleusterau wedi eu rhannu yn ôl rhywedd, a chyfleuster newid a chawodydd cymysg hefyd.

Gellir teilwra’r rhan fwyaf o weithgareddau at anghenion unigol, er hwyrach na fydd modd addasu rhai ohonynt at bob math o anabledd. Mae’r sefydliad yn gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol er mwyn cynnal gwybodaeth a hybu cynhwysiant. Os oes pryderon penodol am hygyrchedd, anogir unigolion i gysylltu â’r tîm i drafod eu gofynion.

Reception in activity centre at Llys-y-frân
Path leading from visitor centre to the activity centre at Llys-y-frân
Meeting room in the activity centre at Llys-y-frân
Path from campsite to activity centre at Llys-y-frân

Y Llwybrau


Mae llwybrau’r ganolfan ymwelwyr yn llydan, yn cael eu cynnal yn dda, ac ar y cyfan maent yn addas ar gyfer cymhorthion symudedd, ond mae’n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr ystyried eu galluoedd a’u hoffer eu hunain ar gyfer rhai o’r dringfeydd.

Mae ymdrechion i wneud yr ystâd yn hygyrch yn parhau, ond mae rhai rhannau o’r parc gwledig yn dal i fod yn sialens oherwydd eu tirweddau naturiol, anwastad a graenog, ac mae rhagor o welliannau dan ystyriaeth.

Mae gan lwybrau cylch y gronfa arwynebau graean anwastad sy’n gallu eu gwneud nhw’n anodd neu’n beryglus i rai defnyddwyr eu mwynhau.

Gwasanaethau ac Adnoddau Ychwanegol


Caniateir cŵn, ond rhaid eu cadw ar dennyn neu harnais bob amser.

Nid oes yna fan tawel dynodedig, ond mae yna fannau mwy tawel i eistedd y tu allan i’r caffi wrth ymyl y siop anrhegion.

Mae dolenni clyw ar gael yn y dderbynfa, y caffi, a derbynfa’r ganolfan gweithgareddau. Cewch symud yr uned i’r lle gorau i’w defnyddio.

Mae ATV (sy’n cael ei yrru gan aelod o staff) ar gael i gludo ymwelwyr i’r Llyn, ond rhaid trefnu hyn ymlaen llaw.

Mae WiFi ar gael.

Mae cadair olwyn gyffredin ar gael i ymwelwyr ei defnyddio am y diwrnod. I holi, cysylltwch â Llys-y-frân ar 01437 532273.

Mewn Argyfwng


Mae yna nifer o allanfeydd tân, o flaen ac ar ochr y Ganolfan Ymwelwyr.

Nid oes grisiau i unrhyw allanfeydd tân.

Drysau dwbl i’w hagor â llaw yw’r holl allanfeydd tân.

Mewn argyfwng, y rheolwr sydd ar ddyletswydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ymwelwyr a staff yn gadael yr adeilad yn ddiogel, a byddant yn helpu pobl os oes angen.

Mae system larwm clywadwy yn y Ganolfan Ymwelwyr, ac mae o leiaf un larwm gweladwy ym mhob ystafell hefyd.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR