O 19 Ionawr hyd 2 Ebrill 2026, bydd y llwybrau cerdded a beicio ar ochr orllewinol y llyn ar gau ar gyfer gwaith hanfodol, gan gynnwys dymchwel a disodli’r bompren yng Nghoedwig y Felindre.
Bydd y gwaith yn effeithio ar y llwybrau cerdded canlynol:
Reservoir Walk
Velindre Family Walk
Daw’r prosiect hwn, sy’n cael ei gyflawni gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri trwy’r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd, yn sgil ymateb i adborth cwsmeriaid.
Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni barhau i wella Llys-y-frân.
O dro bach hamddenol i heic a hanner, dyma’r lle perffaith i fwynhau’r awyr iach, y bywyd gwyllt a’r golygfeydd godidog.
Mae byrddau picnic ar hyd y ffordd fel y cewch aros i fwynhau cefn gwlad Cymru ar ei orau.
Dylai ymwelwyr wisgo esgidiau addas pan fyddant yn cerdded ar ein llwybrau.
Diolch i’r cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr, mae Llyn Llys-y-Frân yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a natur.
Mae’n gartref i foch daear, llwynogod, dyfrgwn, ffwlbartiaid, carlymod, gwiwerod a chwningod, ynghyd ag amrywiaeth eang o ystlumod a mamolion bychain. Mae gennym ddigonedd o fwystfilod bychain, o loÿnnod byw i chwilod, a sawl rhywogaeth o’n hoff beillwyr ni i gyd – y gwenyn.
Mae cerddwyr a beicwyr yn rhannu’r llwybrau hyn, cofiwch fod yn ystyriol ac yn barchus at eich gilydd.
Bydd beicwyr yn reidio’r llwybrau mewn cyfeiriad gwrthglocwedd.
• Cadwch i’r chwith, pasiwch ar y dde
• Mynnwch gael eich gweld a’ch clywed, cadwch yn ddiogel
• Defnyddiwch oleuadau os yw’n dywyll neu’n gymylog
• Pasiwch yn ofalus ac yn araf
• Rhoddir blaenoriaeth i gerddwyr
• Reidiwch ar gyflymdra call
• Arafwch lle na allwch weld beth sy’n dod
• Defnyddiwch y biniau neu ewch â’ch sbwriel adref
Mae croeso cynnes i gŵn yn Llys-y-frân bob amser, ond hoffem atgoffa ymwelwyr taw’r Ardal Ymarfer Cŵn yw’r unig fan lle gellir cadw cŵn oddi ar eu tennyn. Dylid cadw cŵn ar dennyn ym mhob man arall – gan gynnwys y llwybr sy’n amgylchynu’r gronfa – ac allan o’r dŵr.