Gallwch ein ffeindio ni yn: Llyn Llys-y-frân, Heol Clarbeston, Sir Benfro, SA63 4RR.
What3words: shared.adventure.country
Rydyn ni ym mryniau prydferth cefn gwlad gogledd canolbarth Sir Benfro, wrth droed Bryniau Preseli.
Rydyn ni tua 11 milltir i’r gogledd-ddwyrain o dref sirol Hwlffordd a 2 filltir i’r de o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Cliciwch ar y botymau isod am ein hamserau agor, ein cyfleusterau a sut i ddod o hyd i ni.
Rydyn ni’n agored drwy’r flwyddyn ac mae’r oriau agor yn dymhorol.
Site gate opens at 6:00 am – Last entry is 7:00pm
Oriau Agor y Gwanwyn (18 Chwefror – 31 Mawrth)
Dydd Llun a Ddydd Gwener, 10:00 – 4500pm
Oriau agor yr Haf (9 Ebrill – Medi)
Dydd Llun a Ddyd Sul, 9:00am – 5:00pm
Oriau Agor y Gaeaf (1 Hydref – 17 Chwefror)
Ddyd Sadwrn a Ddyd Sul, 10:00am – 4:00pm
Mae digonedd o le parcio ar gael. Lleolir y prif faes parcio mewn lle hwylus yn agos at y ganolfan ymwelwyr. Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael yn y brif faes parcio a gellir cyrraedd y ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r toiledau mewn cadair olwyn. Gellir codi tâl am barcio (£3.00 y dydd).
Mae mannau parcio beics ar gael.
Mae wyth pwynt gwefru ceir yn Llys-y-frân sy’n cael eu gweithredu gan Mer Pure Energy. Codir ffioedd parcio, ond cewch wefru am ddim ar yr amod eich bod chi’n defnyddio Ap Mer Connect UK (i’w lawrlwytho o’r Play Store neu’r App Store). Er bod croeso i chi ddefnyddio apiau eraill, dylech nodi y gallai’r rhain godi ‘ffi trawsrwydweithio’, felly darllenwch eu telerau’n ofalus cyn dechrau gwefru.
Hyb i gwrdd, ymlacio, bwyta ac yfed wrth fwynhau golygfeydd godidog dros y dŵr. Gyda chaffi, siop anrhegion a ystafelloedd i’w llogi
• MANYLION PELLACH •Yn y ganolfan weithgareddau. Yma cewch logi beic at eich anghenion, gan gynnwys e-feics, beics i blant ac oedolion, teclynnau tynnu a threlars. Os ydych chi wedi dod â’ch beic eich hun, mae gennym weithdy trwsio beics mewnol a gorsaf golchi i glirio’r mwd cyn troi am adref ar ôl eich antur.
• MANYLION PELLACH •Mae’r ganolfan weithgareddau newydd bwrpasol yn cynnig ystafelloedd newid a chawodydd ar gyfer chwaraeon dŵr, toiledau, ystafell gyfarfod fawr a hyb beics.
• MANYLION PELLACH •Arhoswch gyda ni am seibiant byr neu wyliau a mwynhewch lonyddwch yr hafan wledig yma wrth galon Sir Benfro.
• MANYLION PELLACH •Mae gennym nifer o ystafelloedd i’w llogi am gyfarfodydd neu achlysuron arbennig yn adeiladau’r Canolfannau Ymwelwyr a Gweithgareddau. Manylion capasiti’r ystafelloedd a’r trefniadau bwcio i ddilyn.
• MANYLION PELLACH •Mae ymarfer corff yn hanfodol i iechyd cŵn, ac er bod yn ddigon o gyfleoedd i fynd â chŵn am dro ar draws ystâd Llys-y-frân, mae’r parc ymarfer yn cynnig y cyfle i’w hymarfer oddi ar eu tennyn.
• MANYLION PELLACH •Y Siwrnai i’r Gorllewin
Rydyn ni gwta 20 munud mewn car i’r gogledd-ddwyrain o dref sirol hynafol Hwlffordd. Dilynwch yr arwyddion brown i Lys-y-Frân o’r A40. Mae digonedd o le parcio ar gael ar y safle â mannau parcio i bobl anabl yn agos at y Ganolfan Ymwelwyr, y caffi a’r toiledau. Rydyn ni ychydig dros 2 awr mewn car o Gaerdydd. Ewch tua’r gorllewin ar yr M4. Os ydych chi’n dod o Loegr – newyddion da, nid oes angen talu i groesi Afon Hafren mwyach!
Mae Sir Benfro’n lle gwych i grwydro ar gefn beic. Os ydych chi’n feiciwr brwd ac am ddod ar feic, gallwch aros i hel eich gwynt yn ein caffi, a chael gofal i’ch beic yn ein hyb beics cyn cychwyn eto ar hyd un o’n llwybrau beicio wedi eu marcio. Cymrwch bethau gan bwyll neu heriwch eich hun trwy ddewis un o’r 12 llwybr sydd wedi eu graddio’n goch, glas a gwyrdd. Neu trwy drefniant ymlaen llaw, gallwch roi cynnig ar ein Hardal Sgiliau Pympio.
Sir yn ne-orllewin Cymru yw Sir Benfro. Mae’n enwog am ei 186 o filltiroedd o arfordir a thraethau bendigedig. Ond mae gan Sir Benfro ddyfroedd mewndirol arbennig iawn hefyd ac mae Llyn Llys-y-Frân yn lle diogel a glân heb unrhyw lanw, felly cewch fwynhau chwaraeon dŵr drwy’r dydd. Mae Bryniau Preseli sy’n ein hamgylchynu’n mawrygu’r dirwedd. Yr uchaf o’r bryniau y gwelwch chi yw Foel Cwmcerwyn, sef pwynt uchaf Bryniau Preseli (536m).
Teulu o dri llwybr cenedlaethol sy’n mynd â chi at galon y Gymru go iawn yw Ffordd Cymru. Y syniad yw igam-ogamu ar draws Cymru gan aros i ddarganfod cestyll, trefi a thrysorau cudd fel Llyn Llys-y-Frân. Mae Ffordd yr Arfordir yn mynd â chi ar daith bendigedig 185 milltir o hyd ar hyd asgwrn cefn Cymru. Cofiwch ychwanegu Llys-y-Frân at eich rhestr o bethau i’w gweld yn Sir Benfro – chewch chi ddim eich siomi.