Canolfan ar gyfer cyrsiau chwaraeon a gweithgareddau dŵr yw Llys-y-frân.
Mae’r holl sesiynau i bobl ifanc yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys ac yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau chwaraeon mewn ffordd gefnogol llawn hwyl.
Mae’r sesiwn antur ieuenctid yma’n rhoi cyfle i blant ddysgu sut i reoli offer padlo a sut i gadw’n ddiogel ar y dŵr gyda hyfforddiant gan un o’n hyfforddwyr cymwys. Ar ôl meistroli’r hanfodion, bydd yr anturwyr ifanc yn mynd allan i anturio ar y llyn ac yn cymryd rhan mewn gemau a sialensiau i brofi eu sgiliau padlo newydd!
• BWCIO NAWR •Yn llawn dop â chyffro ac antur, mae ein Clwb Gweithgareddau Ysglyfaethon Llys-y-frân ar gyfer pobl ifanc 8-16 oed, a’r nod yw cael hwyl yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd, magu hyder a gwneud llwyth o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.
• BWCIO NAWR •Mae’r sesiwn antur ieuenctid yma’n rhoi cyfle i blant ddysgu sut i reoli offer padlo a sut i gadw’n ddiogel ar y dŵr gyda hyfforddiant gan un o’n hyfforddwyr cymwys. Ar ôl meistroli’r hanfodion, bydd yr anturwyr ifanc yn mynd allan i anturio ar y llyn ac yn cymryd rhan mewn gemau a sialensiau i brofi eu sgiliau padlo newydd!
• BWCIO NAWR •Mae’r sesiwn antur yma i bobl ifanc yn rhoi’r cyfle i blant ddysgu sut i reoli dingi hwylio a sut i gadw’n ddiogel ar y dŵr gyda hyfforddiant un o’n hyfforddwyr cymwys. Ar ôl meistroli’r hanfodion, bydd yr anturiaethwyr ifanc yn mynd i anturio ar y llyn ac yn cymryd rhan mewn gemau a sialensiau i brofi eu sgiliau hwylio newydd! [I DDOD YN FUAN]
Mae’r cwrs yma’n cynnig cyflwyniad ymarferol i drin y cwch a diogelwch cychod pŵer. Mae’n cynnwys technegau lansio ac adfer cwch o drelar, trin cychod pob dydd, a defnyddio offer diogelwch.
Canolfan ar gyfer cyrsiau chwaraeon a gweithgareddau dŵr yw Llys-y-frân.
Fel Canolfan Hyfforddi Cydnabyddedig y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) a Phartner Cyflawni Canŵio Prydain, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon dŵr achrededig i fynd â chi bob cam o fod yn ddechreuwr pur i lefel uwch. Gydag offer o safon uchel a hyfforddwyr arbenigol, bydd ennill cymhwyster cydnabyddedig a dysgu set newydd o sgiliau’n gosod y bobl ifanc ar ben ffordd i gyfoethogi eu profiadau chwaraeon dŵr.
Mae Llys-y-frân yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant ar ôl ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau hefyd. Mae’r holl sesiynau i bobl ifanc yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys ac yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau chwaraeon mewn ffordd gefnogol llawn hwyl.
Ar y cwrs yma, fe ddysgwch chi sut i ddysgu hanfodion hwylio, am wahanol rannau’r cwch, a sut i lansio, ymadfer a llywio. Ar ôl cwblhau Cam 1, byddwch chi’n deall egwyddorion sylfaenol hwylio er mwyn symud ymlaen i Gam 2.
• BWCIO NAWR •Yn ystod y cwrs fe fyddwch chi’n parhau i ddatblygu sgiliau sylfaenol, yn ogystal â gwaith rhaffau ac osgoi gwrthdaro. Byddwch chi’n gallu tacio a rheoli cyflymdra’r cwch, ac yn deall egwyddorion y pum nodwedd hanfodol sef cwrs, cyfeirio’r hwyliau, cydbwysedd, hwylraffau/hwyliau a dod i’r lan.
• BWCIO NAWR •Mae’r sesiwn antur ieuenctid yma’n rhoi cyfle i blant ddysgu sut i reoli offer padlo a sut i gadw’n ddiogel ar y dŵr gyda hyfforddiant gan un o’n hyfforddwyr cymwys. Ar ôl meistroli’r hanfodion, bydd yr anturwyr ifanc yn mynd allan i anturio ar y llyn ac yn cymryd rhan mewn gemau a sialensiau i brofi eu sgiliau padlo newydd!

Yn llawn dop â chyffro ac antur, mae ein Clwb Gweithgareddau Ysglyfaethon Llys-y-frân ar gyfer pobl ifanc 8-16 oed, a’r nod yw cael hwyl yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd, magu hyder a gwneud llwyth o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.
Mae’r sesiynau wythnosol yn cynnwys cymryd rhan a datblygu mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys caiacio, canŵio, rhwyf-fyrddio, beicio, saethyddiaeth a dringo.
