Mae dipio dŵr oer yn weithgaredd iachaol a hwyliog sy’n gallu hybu iechyd meddwl a chorfforol.
Mae dipio dŵr oer yn weithgaredd iachaol a hwyliog sy’n gallu hybu iechyd meddwl a chorfforol.
Awydd ymuno â chymuned dipio dŵr oer Llys-y-frân?
Gallwch ddipio mewn siwt wlyb neu mewn ‘croen nofio’ (sef enw’r gymuned dipio dŵr oer am wisg nofio arferol).
Ymlaciwch, cadwch yn heini a datblygwch eich gwytnwch trwy gydol y flwyddyn!
Hoffem eich atgoffa na chaniateir nofio heb awdurdod yn ein cronfeydd ac mae gwneud hynny’n eithriadol o beryglus. Mae ein sesiynau dipio dŵr oer a nofio dŵr agored wedi eu rheoleiddio o dan oruchwyliaeth ofalus ein tîm sydd wedi cael hyfforddiant trylwyr. Dim ond mewn rhannau dynodedig o’r gronfa y cynhelir y sesiynau er mwyn cadw draw wrth y peiriannau cudd yn y dŵr, a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Ymhlth peryglon nofio heb awdurdod mewn cronfeydd mae
Peiriannau awtomatig o dan wyneb y dŵr sy’n gallu dechrau gweithredu heb rybudd clir
Mae hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn gallu mynd i drafferthion mewn dŵr sy’n oer iawn ac yn ddwfn
Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd mewn lleoliadau anghysbell, heb signal ffôn poced da, sy’n lleihau’n ddifridol y tebygolrwydd y daw rhywun i’ch achub
Mae Llys-y-frân wedi ennill Achrediad SAFE Cymru.
Datblygwyd SAFE Cymru gan Nofio Cymru mewn partneriaeth agos â Triathlon Cymru, ac mae’r cynllun wedi ennill cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a’r AWWSG fel y pinacl o safonau cyfleusterau dyfrol diogel yng Nghymru.
Mae SAFE Cymru’n ein helpu ni i hyrwyddo a datblygu nofio dŵr agored yn ddiogel. Bydd safonau rhyngwladol Nofio Cymru yn darparu’r adnoddau a’r safonau sydd eu hangen i sicrhau cyfranogiad diogel yng Nghymru.