Dyfrgwn yn Llys-y-Frân - Dwr Cymru | Mynediad am Ddim

Dyfrgwn

Chwim

yn Llyn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Y Dyfrgi yn Llys-y-Frân


Mae Llys-y-Frân yn gynefin pwysig ar gyfer dyfrgwn oherwydd ansawdd uchel dŵr y llyn, y ffynonellau toreithiog o fwydydd amrywiol sydd ar gael iddynt, a’r llystyfiant ar y glannau.

Rhywogaeth led-ddyfrol swil yw’r dyfrgi. Mae’n nofio’n isel iawn yn y dŵr a phrin y gellir gweld ei ben a’i gefn ar yr wyneb. Cadwch lygad am ffwr brown, sy’n aml yn fwy golau ar y bola; corff hir a main; clustiau bach; cynffon hir a thrwchus a thraed gweog y creaduriaid annwyl yma.

Ffeil Ffeithiau

Enw gwyddonol: Lutra lutra

Hyd: 60-80cm

Cynffon: 32-56cm

Pwysau: 6-8kg

Hyd oes gyfartalog: 5-10 years

Oeddech chi’n gwybod…?


Gwelwyd dirywiad sydyn a thrychinebus yn y boblogaeth o ddyfrgwn mewn rhannau helaeth o Brydain ac Ewrop yn y 1950au a’r 1960au. Heddiw mae dyfrgwn yn cael eu hamddiffyn gan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) ac mae eu dyfodol yn fwy disglair o lawer.

Sut gallwch chi helpu?


Mae cyfyngiadau ar angori cychod a mynediad at fannau sensitif yma yn Llys-y-Frân er mwyn helpu i amddiffyn y dyfrgwn sy’n byw yma.

Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt a Byd Natur

Bywyd Gwyllt a Byd Natur yn Llys-y-Frân

Diolch i’r cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr, mae Llyn Llys-y-Frân yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a natur.

• MANYLION PELLACH •

Adar

Am fod cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr yn Llys-y-Frân, mae’r ardal yn denu amrywiaeth eang o adar.

• MANYLION PELLACH •

Ffwlbartiaid

Cafodd y ffwlbart, anifail bach ag wyneb tebyg i leidr pen-ffordd, ei erlyn gymaint ar un adeg nes y bu ond y dim iddo ddiflannu o’r DU.

• MANYLION PELLACH •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU