Closiwch at fyd natur ac at eich gilydd!
Antur Sant Ffolant i Gyplau yn Llys-y-Frân Closiwch at fyd natur ac at eich gilydd! Sbwyliwch rywun annwyl â dêt antur Sant Ffolant yn Llys-y-Frân, lle cewch fwynhau antur chwaraeon dŵr 2 awr mewn caiac neu ganŵ i ddau. Os ydych chi’n hapusach ar dir sych, gallwch logi beics a chrwydro’r llwybrau beicio o amgylch y gronfa. Ar ôl eich gweithgaredd awyr agored, cewch groeso yn ein caffi i fwynhau plât rhannu i 2, â dewis o blât o gig, plât llysieuol neu gymysgedd o’r ddau. Mae gennym opsiwn figan hefyd.
Hyn oll am gwta £25.00 y pâr.
Mae llefydd yn gyfyngedig, felly bwciwch nawr!
Pan fyddwch wedi bwcio, bydd aelod o staff yn cysylltu i gadarnhau eich dewisiadau o ran gweithgaredd a bwyd.