Dathlu Hanner Canmlwyddiant Argae Llys-y-frân - Llys-y-Frân - Welsh Water

Dathlu

Hanner Canmlwyddiant

Argae Llys-y-frân

Gan Dŵr Cymru

9 May – 15 May

Dathlu Hanner Canmlwyddiant Argae Llys-y-frân

Dydd Llun, 9 Mai byddwn ni’n agor Oriel yr Hanner Canmlwyddiant i’r cyhoedd gan ddangos delweddau a dogfennau o gyfnod adeiladu’r argae. Bydd rhodfa’r wal ar agor rhwng 11am a 2pm a bydd yr argae’n ffrydio am 11.30am i bawb ei weld.

Dechreuodd y gwaith i godi argae Llys-y-frân yn Chwefror 1968, ac arllwyswyd y concrit cyntaf y mis Medi canlynol. Yn ystod y gwaith adeiladu, bu angen gwyro afon Syfynwy. Erbyn Mehefin 1970 roedd y basn dŵr llonydd, is-strwythur yr adeilad rheoli a’r pibellwaith yn y twnnel cyflenwi wedi cael eu cwblhau, a chafodd yr afon ei gwyro trwy’r pibellwaith a’r basn dŵr llonydd o dipyn i beth.

Gosodwyd concrit terfynol ar 19 Mai 1971 ac roedd cyfanswm o dros 500,000 tunnell wedi cael eu gosod ers i’r gwaith ddechrau ym Medi 1968. Erbyn mis Mai, roedd dyfnder y dŵr wedi cynyddu i 40 troedfedd, ond dim ond ar 5 Rhagfyr 1971, naw mis union ar ôl i’r gwaith powndio ddechrau, y gorlifodd y gronfa ddŵr am y tro cyntaf.

Mae’r argae yn gampwaith peirianegol, ond mae hi wedi cynnal y dirwedd fel hafan ar gyfer natur a bywyd gwyllt hefyd.

Gyda chymorth y cyhoedd, rydyn ni wedi creu oriel fendigedig. Cynhaliwyd dwy sesiwn hel atgofion ym mis Ebrill pan ddaeth trigolion lleol draw i’r ganolfan i rannu eu hatgofion, ffotograffau gwreiddiol a chreiriau o’r cyfnod yn gyfnewid am baned.

Cododd ein Sesiwn Hel Atgofion bob math o drysorau hanesyddol, ond nid oedd neb wedi disgwyl gweld gwahoddiad a llyfryn gwreiddiol o’r agoriad swyddogol pan ddaeth Ei Mawrhydi’r Dywysoges Margaret, Iarlles Eryri, i agor Cronfa Ddŵr Llys-y-frân. Cynhaliwyd yr achlysur agor a drefnwyd gan Fwrdd Dŵr Sir Benfro dydd Mawrth, 9 Mai 1972.

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod mor garedig â benthyg ffotograffau a chreiriau i ni eu defnyddio yn ein horiel. Roedd hi’n braf clywed atgofion a straeon pawb am adeiladu’r argae.


Oriel 11.00am – 2.00pm Dydd Llun 9 Mai – Dydd Sul 15 Mai

bydd yr argae’n ffrydio Dydd Llun 9 Mai 11.30am

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU