Diwrnod Atal Boddi’r Byd - Llys-y-Frân - Welsh Water

Diwrnod

Atal Boddi’r

Byd

Ar agor trwy'r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

25 Jul

Diwrnod Atal Boddi’r Byd

Mae Llys-y-frân yn falch o gynnal diwrnod Diogelwch Dŵr er mwyn hybu diogelwch gweithgareddau dŵr yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth am beryglon nofio yn yr awyr agored.

Paratowch am ddiwrnod llawn gweithgareddau lle bydd nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr RNLI, Nofio Cymru, Tân ac Achub, yr Heddlu a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cynnal stondinau. Cewch gyfle i ddysgu am ddiogelwch y dŵr gan arbenigwyr, a gweld arddangosiadau achub cyffrous.  

Bydd yna gyfle i weld y gwaith mae Dŵr Cymru’n ei wneud i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn ddiogel yn Llys-y-frân. Bydd sesiynau blasu rhwyf-fyrddio ar gael i’w bwcio hefyd.

Dydd Mawrth 25 Gorffennaf, 9.00am – 5.00pm

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU