Rydyn ni’n ffodus fod yna gynnyrch lleol bendigedig ym mhobman o’n cwmpas yn Sir Benfro a’r ardal gyfagos, ac mae gennym gynhyrchwyr o’r safon uchaf sy’n barod i gynnal stondinau yn ein Ffair Fwyd a Diod.
Mwynhewch ddanteithion gan Welsh Wales Chock Shop, Pembrokeshire Fudge, 7 Sins Bakery, Plumstone Welsh Bakes, Printed Chocolates Ltd a The Fudge Foundry Wales. Bydd Pembrokeshire Cider yn gwerthu eu seidr gorau gan gynnwys seidr Henry VII, seidr William Marshal a seidr Cromwell 1648. Bydd Ystâd Cwm Deri’n dod â dewis helaeth o winoedd, jin o bob math a rym. Ac i’r rhai ohonoch â dant llai melys, bydd siytni a sawsiau gan Little Black Hen, Foxhill Preserves a The Potting Shed, Maenclochog.
Ac wrth grwydro’r stondinau, gall ymwelwyr fwynhau tamaid neu baned a chacen yng Nghaffi Glan y Llyn. Ac yn ystod eich ymweliad â’r ganolfan ymwelwyr, beth am gael pip ar y dewis bendigedig o grefftau ac anrhegion sydd ar werth yn ein siop, sy’n cynnwys hetiau, sgarffiau, carthenni, blancedi, teganau a llyfrau.
Dydd Sadwrn 28 Hydref, 10am – 4pm