Ffair Nadolig 2022 - Llys-y-Frân - Welsh Water

Canhwyllau, Gemwaith, Dillad

Ffair Nadolig 2022

Addurniadau i’r cartref, Clustogau, Addurniadau Nadolig

Ar agor trwy'r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

3 Dec – 4 Dec

Ffair Nadolig 2022

Ac eleni bydd y ffair yn ymestyn dros ddau ddiwrnod dydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Rhagfyr rhwng 10am a 4pm. Bydd yna 24 o stondinau a fydd yn gwerthu amrywiaeth o grefftau cartref a rhoddion sy’n ddelfrydol fel anrhegion Nadolig. Mae Llys-y-frân wrth eu boddau i groesawu Abbots Ceramics nôl, gyda’u crochenwaith bendigedig wedi ei ysbrydoli gan dir a môr Sir Benfro. Bydd y gofaint lleol, Yr Hen Gof Forge yn dychwelyd gyda’u syniadau unigryw am anrhegion wedi eu gofannu â llaw, a bydd y crefftwyr sebon Clarby Soaps yn arddangos eu sebon cynaliadwy hyfryd, sy’n cael ei wneud â llaw yn lleol.

Yn dilyn Ffair Nadolig gyntaf lwyddiannus yn 2021, bydd Llys-y-frân yn trawsnewid y ganolfan ymwelwyr yn ferw o brysurdeb a danteithion y Nadolig eto eleni!

Mae gennym lwyth o stondinau newydd i’w cynnig hefyd, gan gynnwys Rhosyn Novella Creations gyda’u rhoddion ac addurniadau Nadolig o waith macramé a crosio â llaw. Bydd ‘Caer Candles’ o Sir Benfro yn gwerthu canhwyllau â chyfuniad unigryw o beraroglau hyfryd, gan gynnwys eu casgliad clasurol poblogaidd, canhwyllau ioga a’r casgliad Nadolig newydd.

Bydd dewis eang o stondinau tlysau gyda rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys Riptide Jewellery sy’n creu gemwaith arian â llaw gan ddefnyddio amrywiaeth o emau a gwydr môr Sir Benfro. Mae ‘Trysorfa’ yn arbenigo mewn tlysau a rhoddion sy’n defnyddio gemau a chrisialau.

Mae gan siop anrhegion y Ganolfan Ymwelwyr ddewis helaeth o nwyddau adwerthu ac mae stoc dda o anrhegion Nadolig ar gael ar hyn o bryd. Mae yna roddion bwyd a diod lleol ynghyd â blancedi, carthenni, cwpanau, llyfrau, teganau traddodiadol ac anrhegion bychain.

Bydd Caffi Glan y Llyn yn gwerthu eu diodydd cynnes Biscoffi a Bounty Hylifol hynod boblogaidd, ynghyd â Mocha Bara Sinsir, Siocled Poeth S’mores a Chai Stêm Sinamon. Y saig dymhorol eleni yw Byrgyr Twrci, Brie a Llugaeron, ac yn arbennig ar gyfer y ffair Nadolig bydd yna Dortila Sir Efrog y Nadolig – tortila pwdin cytew mawr gyda thwrci, llysiau rhost, stwffin a soch mewn sach, neu ddewis llysieuol â Quorn rhost.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU