Ydych chi’n cofio?
Mae hi bron yn 50 mlynedd ers i argae Llys-y-Frân gael ei agor yn swyddogol ac rydyn ni am ddathlu’r achlysur trwy gofio cyfnod adeiladu’r argae rhwng diwedd y chwedegau a’r agoriad ym 1972.
Adeiladodd Bwrdd Dŵr Sir Benfro’r argae er mwyn darparu cyflenwadau dŵr ar gyfer rhan ddeheuol y sir. Cafodd ei agor yn swyddogol gan y Dywysoges Margaret ar 9 Mai 1972.
A fuoch chi neu aelod o’ch teulu’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu? Oes hen luniau gennych o’r cwm cyn adeiladu’r argae?
Rydyn ni’n cynnal dau fore hel atgofion rhwng 10am – 2pm dydd Mawrth 26 a dydd Sadwrn 30 Ebrill er mwyn i chi rannu eich lluniau a’ch straeon â ni yn gyfnewid am baned. Helpwch ni i greu arddangosfa Pen-blwydd Aur yr Argae, a fydd i’w gweld yn y ganolfan ymwelwyr am wythnos o ddydd Llun, 9 Mai ymlaen.
10.00am – 2.00pm