Targedu’r bwci bos!
Byddwn ni’n rhoi gwedd arbennig ar ein sesiynau saethyddiaeth dros Galan Gaeaf gyda bwci bos i’w taro fel targedau.
Cystadlwch yn erbyn ffrindiau a pherthnasau i fod yn Bencampwr Saethyddiaeth Calan Gaeaf yn y sialens saethyddiaeth hwyliog yma dan ofal hyfforddwyr i bobl o bob gallu.
Addurno pwmpen arswydus – gan wneud yn siŵr bod wyneb ganddo!
Anelu at dargedau dychrynllyd – ar ôl eich sesiwn addurno, ewch i lawr i’r llain saethyddiaeth i brofi eich sgil ar ein targedau Calan Gaeaf arbennig, gyda sombis, bwci bos a phob math o bethau dychrynllyd!
Saethu’r pennau pwmpen! – ac i orffen, cewch brofi eich sgiliau saethyddiaeth wrth anelu am ben y pwmpen rydych chi wedi ei addurno!
Perffaith i bob oedran (dros 6 oed) ac i deuluoedd sydd am adio ychydig bach o hud (a drygioni!) at eu Calan Gaeaf dros hanner tymor.
ae holl reolau diogelwch safonol saethyddiaeth yn parhau, a bydd gofyn i bawb sy’n cymryd rhan ddilyn cyfarwyddiadau’r hyfforddwr trwy gydol y sesiwn.

Dim ots a ydych chi’n ymweld â Llys-y-frân am dro bach hamddenol ar lan y llyn neu am antur i’r teulu dros hanner tymor, cewch fwynhau cinio gyda’n cynnig Bwyd am Ddim i’r Plant.