Defnyddiwch eich creadigrwydd yn ein gweithdy crefftau – wrth wneud eich llusern eich hun!
Dewch i’n gweithdy crefftau a chychwyn antur greadigol! Ymunwch â ni wrth i ni’ch tywys trwy’r broses o greu eich llusern eich hun gan ddefnyddio cyfuniad o bren helyg a phapur sidan. Gydag arbenigedd ein crefftwyr dawnus, cewch chi’r holl gefnogaeth fydd ei hangen arnoch i ddod â’ch dyluniad unigryw’n fyw gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau lliwgar!
Ar ôl cwblhau eich campwaith, cewch ei gadw.
Rydyn ni’n annog rheini i ddod gyda’u plant ar gyfer y profiad crefftus cyffrous yma. Ac os ydych chi’n teimlo ysbrydoliaeth, croeso i chi ddefnyddio’ch creadigrwydd i greu eich llusern eich hun hefyd!
Dydd Sadwrn 28 Hydref, 11:00am, 12:00, 3:00pm
Dydd Sadwrn 4 Tachwedd, 11:00am, 12:00, 3:00pm