Y Ffwlbart yn Llyn Llys-y-Frân - Dwr Cymru | Mynediad am Ddim

Y Ffwlbart

Lleidr Pen-ffordd y Gorllewin

yn Llyn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Y Ffwlbart


Un o famolion difyr Llys-y-Frân yw’r ffwlbart, cefnder gwyllt y ffured ddomestig. Mae’r streipiau gwyn ar hyd ei wyneb lliw tywyll yn gwneud iddo edrych fel pe bai’n gwisgo masg lleidr pen-ffordd.. Mae gan y ffwlbart flew deuliw: gyda haen o flew tywyll yn gorchuddio is-haen o flew mwy golau. Mae ganddo gynffon byr a thywyll a chlustiau bach crwn.

Bu’r ffwlbart yn agos at ddiflannu o Brydain. Goroesodd yma yng ngorllewin Cymru’n bennaf, er ei fod bellach wedi ehangu ei gynefin ar draws y wlad ac i mewn i Loegr. Mae’r ffwlbart yn hela dros nos, gan ysglyfaethu cwningod a chnofilod bychain, ond mae’n gallu bwyta brogaod, adar a nadredd hefyd.

Ffeil Ffeithiau

Enw gwyddonol: Mustela putorius

Hyd: 32-45cm

Cynffon: 12-19cm

Pwysau: 0.5-1.9kg

Hyd oes gyfartalog: 5 years

Oeddech chi’n gwybod…?

Mae ffwlbartiaid weithiau’n bridio â ffuredau domestig sydd wedi dianc; mae lliw’r ffwr ar gefnau a wynebau’r creaduriaid hybrid yma’n dueddol o fod yn fwy golau a hufennog.

Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt a Byd Natur

Bywyd Gwyllt a Byd Natur yn Llys-y-Frân

Diolch i’r cymysgedd o dir fferm, coetir, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr, mae Llyn Llys-y-Frân yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a natur.

• MANYLION PELLACH •

Dyfrgwn

Mae Llys-y-Frân yn gynefin pwysig ar gyfer dyfrgwn oherwydd ansawdd uchel dŵr y llyn, y ffynonellau toreithiog o fwydydd amrywiol sydd ar gael iddynt, a’r llystyfiant ar y glannau.

• MANYLION PELLACH •

Adar

Fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt a byd natur wrth galon cefn gwlad Sir Benfro, mae Llyn Llys-y-Frân yn denu amrywiaeth eang o rywogaethau o adar.

• MANYLION PELLACH •
Ffotograff gan Charlie Marshall a atgynhyrchwyd o dan drwydded Creative Commons 2.0

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU