Mae esgidiau dŵr yn orfodol ar gyfer pob math o chwaraeon dŵr a rhaid eu gwisgo bob amser. Crocs and sliders are not deemed suitable.
Agorodd Cronfa Ddŵr Llys-y-Frân y 1972 ac erbyn hyn mae’n cyflenwi’r rhan fwyaf o gartrefi a diwydiannau de Sir Benfro. Mae’r gronfa wedi creu amgylchedd lle mae natur a bywyd gwyllt yn llewyrchu, a llyn sy’n berffaith ar gyfer pob math o chwaraeon dŵr.
Gyda dros 200 erw o ddŵr mae digonedd o le i bawb.
Mae’r dŵr yn lân ac yn ddwfn, a does yna ddim llanw i gyfyngu ar yr hwyl. Mwyhewch yr olygfa wrth Rwyf-fyrddio neu Bedalfyrddio. Teclyn newydd sbon yw’r pedalfwrdd sy’n cyfuno hwyl SUP â chysur bariau llaw. Mae digonedd o offer gennym i’w llogi a’r opsiwn i drefnu sesiwn gyda hyfforddwr i’ch gosod ar ben ffordd. Os oes gennych eich offer eich hun a’ch bod yn hyderus ar y dŵr – yna croeso i chi dalu fesul tro ac i ffwrdd â chi.
Dewiswch beth i’w logi o’n fflyd newydd sbon. Gallwch wisgo eich siwt gwlyb, offer hynofedd a’ch helmed eich hun neu ei logi ein rhai ni.
Mae rhwyf-fyrddio neu SUP yn boblogaidd dros ben. Mae’r bwrdd yn debyg i hwylfwrdd, ond rydych chi’n sefyll arno ac yn defnyddio rhwyf fawr i’ch gyrru’ch hun yn eich blaen yn hytrach na gorwedd ar y bwrdd a phadlo. Mae’n ymarfer y corff i gyd, ac yn enwedig y cyhyrau craidd – ac yn gwella ystwythder, cydsymud ac iechyd yn gyffredinol.
• BWCIO NAWR •Llogwch gaiac neu ganŵ i grwydro’r llyn mewn heddwch. Heb hymian injan cwch fe glywch chi holl synau natur wrth badlo.
• BWCIO NAWR •Cyrsiau Dysgu Padlo ar gael nawr yn Llys Y Fran. P’un a hoffech ddysgu sut i Padlo-fwrdd, Caiac neu Ganŵ, mae ein cyflwyniad i gyrsiau dan arweiniad hyfforddwr yn ddechrau perffaith. Dysgwch sgiliau amhrisiadwy mewn technegau padlo, diogelwch dŵr a mwynhewch archwilio’r gronfa ddŵr.
• BWCIO NAWR •Mwynhewch y llyn gyda’ch caiac, canŵ neu rwyf-fwrdd eich hun. Mae opsiynau hunan-lansio ar gael i bawb sy’n defnyddio offer padlo. Rhaid bwcio amser. Gallwch wneud hyn ar lein neu trwy ffonio ein tîm cyfeillgar ar 01437 532273 i wneud yn siŵr bod lle i chi. Gall plant dros 6 oed gymryd rhan gyda phadlwr arall dros 16 oed os oes gwarchodwr (18+) ar y safle.
• BWCIO NAWR •Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn Llyn Llandegfedd yn Sir Fynwy, byddwn ni’n cynnig sesiynau Nofio Dŵr Agored. Caiff y sesiynau eu teilwra ar gyfer clybiau, grwpiau ac unigolion sydd am roi cynnig ar y gweithgaredd hynod boblogaidd yma sydd â manteision mawr i iechyd.
• BWCIO NAWR •Beth fydd ei angen arna’i? Mae darpariaeth offer hynofedd, helmed (yn dibynnu ar y gweithgaredd) a siwt wlyb yn gynwysedig ar gyfer yr holl sesiynau yng ngofal hyfforddwr, neu gallwch ddefnyddio’ch offer eich hun.
Dewch â’r pethau canlynol gyda chi… Gwisg nofio i’w gwisgo o dan eich siwt wlyb Esgidiau dŵr (neu hen dreineri) Dillad sych Tywel Eli haul Ychydig o fenter!
Nofio Dŵr Agored Ni chaniateir unrhyw fynediad diawdurdod i’r dŵr. Caniateir nofio dŵr agored yn rhan o sesiynau pwrpasol dan reolaeth dynn yn unig, a rhaid bwcio’r rhain ymlaen llaw.