Cyfeillion Llys-y-Frân
Mae Llys-y-Frân dan berchnogaeth a rheolaeth Dŵr Cymru, sy’n warcheidwaid ar yr amgylchedd yma.
Mae Dwr Cymru’n wahanol i gwmnïau dwr eraill. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, sy’n golygu bod pob un geiniog a wnawn yn mynd yn syth nôl i gadw biliau’n isel a gofalu am eich dwr a’ch amgylchedd prydferth – nawr, ac am flynyddoedd mawr i ddod.
Mae Dwr Cymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â mudiadau sy’n cynnig cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth pobl a chymunedau lleol am ofalu am yr amgylchedd, a’u galluogi i chwarae eu rhan.
Ein Hatyniadau Ymwelwyr a’n hybiau ar gyfer iechyd a hamdden. Yn cysylltu ein hymwelwyr â’r awyr agored, dwr a’r amgylchedd.
Bydd gweithio ar y cyd â mudiadau yn ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth 2050 i fod yn fusnes sy’n defnyddio ei ddaliannau tir a’i asedau eraill er budd llesiant ei gwsmeriaid, gan hybu hamdden a ffyrdd iach o fyw, a chynnal bioamrywiaeth ac ecosystemau.
Os ydych chi’n fudiad sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ac sydd am weithio ar y cyd â ni, cysylltwch i gofrestru fel darparydd volunteer@dwrcymru.com