Mae hi’n adeg hynod o gyffrous i ymuno â ni am yrfa yn Dŵr Cymru. Dros y pum mlynedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn buddsoddi yn ein canolfannau ymwelwyr er mwyn gwella’r cyfleusterau a’r ddarpariaeth ar gyfer cwsmeriaid. Rydyn ni’n parhau i weithio ar ein rhaglen o welliannau gwerth miliynau ar draws ein safleoedd cyfredol, ac yn cynllunio cyfleusterau hamdden newydd ar gyfer y dyfodol. Ein huchelgais yw creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer mwynhad, iechyd a lles ein hymwelwyr, gan ailgysylltu pobl â’n hamgylchedd prydferth. Cliciwch ar y botwm isod i weld y swyddi sydd ar gael yn Llys-y-Frân, nodwch eich cyfeiriad e-bost a byddwn ni’n rhannu gwybodaeth sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau â chi, neu sgroliwch i lawr i gael rhagor o fanylion am Ddŵr Cymru.
Rydyn ni’n denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’n pedair canolfan ymwelwyr allweddol yn rhai o leoliadau pryferthaf Cymru.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau, gan gynnwys chwaraeon dŵr, beicio mynydd, pysgota, cerdded a phaned braf neu bryd blasus yn ein bwytai sy’n cynnig rhai o olygfeydd gorau Cymru.
Mae ein canolfannau ymwelwyr yn darparu cyfle unigryw i ni gysylltu â’n cwsmeriaid a’n hymwelwyr mewn amgylchedd hardd, wrth ategu hunaniaeth ein brand a’n model busnes unigryw.
Rydyn ni’n falch o’ r rôl bwysig y mae ein canolfannau ymwelwyr yn ei chwarae wrth gyflawni ein huchelgeisiau o ran addysg, cadwraeth a bioamrywiaeth.
Mae ein gwaith yn Dŵr Cymru’n bwysig dros ben – rydyn ni’n darparu dŵr diogel a glân ar gyfer cwsmeriaid, yn cludo eu dŵr brwnt i ffwrdd, ac yn helpu i amddiffyn ein hamgylchedd prydferth.
Mae hi’n gyfrifoldeb a hanner, ac mae angen i ni ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd.
Mae’r ffaith taw ni yw’r unig gwmni nid-er-elw yn y diwydiant dŵr yn sicr yn ddechrau da. Mae’n golygu bod pob un geiniog a wnawn yn mynd yn ôl i ofalu am eu dŵr a’r amgylchedd yn hytrach na mynd i bocedi cyfranddeiliaid.