Ymgollwch ym mhrydferthwch a hanes hen eglwys y pentref. Gan bwyll ar y grisiau serth a’r tir sy’n arw mewn mannau.
Mae Eglwys Meilyr Sant o’r 11eg ganrif wedi ei amgylchynu gan olygfeydd prydferth ac mae’r lle’n llawn hanes. Mwynhewch y daith yma mewn cwta 15 munud.
Cyfeirnod map 039 242
Gan ddechrau wrth y Ganolfan Ymwelwyr, ewch i lawr y bryn tua wal yr argae.
Dilynwch yr arwydd i gyfeiriad Eglwys Meilyr Sant wrth fynd i lawr y bryn, a fydd yn mynd â chi oddi ar y safle i bentref Llys-y-Frân. Os cyrhaeddwch chi wal yr argae, rydych chi wedi mynd yn rhy bell!
Cyrhaeddwch Eglwys brydferth Meilyr Sant.
Ar ôl mwynhau hanes a phrydferthwch eglwys y pentref, ewch nôl i'r safle gan ddilyn y llwybr cerdded cyhoeddus nôl i'r Ganolfan Ymwelwyr am baned haeddiannol.
6.87m / 11.05km. Gallwch gwblhau’r daith hon mewn ychydig yn llai na 3 awr. Mwynhewch olygfeydd bendigedig o waelod yr argae, crwydrwch Goedwig Walton a mwynhewch y golygfeydd godidog dros y dŵr.
• EWCH I’R LLWYBR •0.27m / 0.44km. Mwynhewch yr awyr iach wrth fynd am dro bach hamddenol ar hyd waelod yr argae, a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 10 munud.
• EWCH I’R LLWYBR •0.36m / 0.58km. Cwblhewch y daith gerdded yma mewn cwta 12 munud gan fwynhau’r golygfeydd bendigedig ar hyd y lan.
• EWCH I’R LLWYBR •