Taith Gerdded y Felindre i Deuluoedd - Llys-y-Frân - Welsh Water

Llwybr Taith Gerdded

y Felindre i Deuluoedd

yn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded y Felindre i Deuluoedd


Llwybr sy’n goleddfu’n ysgafn ar hyd ochr agosaf y gronfa gan ddilyn ein llwybr graean yno ac yn ôl.

Mwynhewch yr ardaloedd picnic, edmygwch y guddfan adarydda, a chrwydrwch y dolydd glaswelltog ar lan y dŵr.

Manylion y Llwybr

Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr ar y daith gerdded yma a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.

Difficulty: Cymedrol

Distance: 6.68m / 10.76km

Time: 2 awr 45 munud

Eich Llwybr


Dechrau

Cyfeirnod map xxxxxxx

1

Dechreuwch wrth y Ganolfan Weithgareddau.

2

Dilynwch y trac trwy’r goedwig i’n prif ardal picnic. Gofalwch nad yw’r gwyddau barus yn ymuno yn yr hwyl!

3

Parhewch â'ch siwrnai ar hyd y trac, gan fwynhau golygfeydd bendigedig o'r dŵr.

4

Cadwch lygad am ein cuddfan adarydda ar hyd y ffordd, croeso i chi alw i mewn i weld pa adar sydd wedi ymgartrefu yma.

5

Dilynwch y llwybr nes cyrraedd y bont dros Afon Syfni. Arhoswch yma i chwarae gêm rasio brigau o’r bont cyn troi nôl am y Ganolfan Weithgareddau ar hyd yr un llwybr.

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Taith Gerdded yr Ardd Goffa

0.16m / 0.26km. Amgylchynwch eich hun â golygfeydd prydferth wrth fwynhau tro bach hamddenol 5 munud o hyd o gwmpas yr ardd goffa.

• EWCH I’R LLWYBR •

Taith Gerdded yr Wstog

6.87m / 11.05km. Gallwch gwblhau’r daith hon mewn ychydig yn llai na 3 awr. Mwynhewch olygfeydd bendigedig o waelod yr argae, crwydrwch Goedwig Walton a mwynhewch y golygfeydd godidog dros y dŵr.

• EWCH I’R LLWYBR •

Taith Gerdded Eglwys Meilyr Sant

0.47m / 0.76km. Mae Eglwys Meilyr Sant o’r 11eg ganrif wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd prydferth ac mae’r lle’n llawn hanes, mwynhewch y daith gerdded yma mewn cwta 15 munud.

• EWCH I’R LLWYBR •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU