Mae pen pellaf (gorllewinol) y trac graean yma’n ddigon serth, ac mae’r rhan yma’n hirach ac yn fwy troellog na’r ochr agosaf at y ganolfan.
Awgrym: Gwnewch y daith mewn cyfeiriad clocwedd i orffen ar lwybrau mwy gwastad.
Mae’r daith brydferth yma’n mynd â chi’r holl ffordd o amgylch y gronfa. Mae’r daith yn dilyn llwybr graean a bydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.
Cyfeirnod map 040 243 i 035 242 trwy 042 267
Dechreuwch wrth y Ganolfan Ymwelwyr – Dewiswch pa ffordd rydych chi am fynd o amgylch y gronfa, gallwch ddechrau'n rhwydd a magu nerth at y rhannau anodd, neu fentro'r rhannau anodd yn gyntaf a chadw'r rhan hawdd tan y diwedd!
Anodd i Hawdd – O'r ganolfan ymwelwyr, ewch i lawr am waelod wal yr argae gan ddilyn llwybr yr Wstog. Hawdd i Anodd – O'r ganolfan weithgareddau, ewch trwy'r coed i ddechrau'ch siwrnai o'r ardal bicnic gan ddilyn y Llwybr i Deuluoedd.
Anodd i Hawdd – Parhewch ar hyd llwybr yr Wstog trwy'r coed a dros y bryniau. Hawdd i Anodd – Parhewch â'ch antur ar hyd y llwybr i Deuluoedd.
Y ddau lwybr – Ar ôl cyrraedd y bont dros Afon Syfni, rydych chi hanner ffordd trwy eich taith epig. Rydych chi bron â bod yno!
Y ddau lwybr – Parhewch ar hyd y brif lwybr.
Y ddau lwybr – Ewch nôl am y Ganolfan Ymwelwyr am baned haeddiannol ar ben y daith.
0.16m / 0.26km. Amgylchynwch eich hun â golygfeydd prydferth wrth fwynhau tro bach hamddenol 5 munud o gwmpas yr ardd goffa.
• EWCH I’R LLWYBR •0.36m / 0.58km. Cwblhewch y daith gerdded yma mewn cwta 12 munud gan fwynhau’r golygfeydd bendigedig ar hyd y lan.
• EWCH I’R LLWYBR •6.68m / 10.76km. Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr ar daith gerdded a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.
• EWCH I’R LLWYBR •