Mae’r llwybr graean yn serth ac yn droellog mewn mannau ond mae heddwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
Cwblhewch y daith yma mewn ychydig yn llai na 3 awr. Mwynhewch olygfeydd bendigedig o waelod yr argae, crwydrwch Goedwig Walton ac edmygwch olygfeydd godidog dros y dŵr.
Cyfeirnod map 035 245 i 042 267
Dechreuwch wrth y Ganolfan Ymwelwyr ac ewch i lawr at waelod wal yr argae.
Ar ôl mwynhau'r olygfa fendigedig o waelod yr argae, dilynwch y ffordd i fyny'r bryn heibio i'r ardd goffa ym mhen pellaf wal yr argae. Oddi yma, cewch olygfa fendigedig o'r safle cyfan a bryniau Preseli yn y pellter.
Dilynwch y trac graean i lawr y bryn i Goedwig Walton.
Ar hyd y llwybr, arhoswch i orffwys yn rhai o'n hardaloedd picnic ar lan y dŵr â golygfeydd godidog dros y llyn.
Taclwch rai o'r bryniau a'r llethrau naturiol trwy'r Wstog a Choedwig Gwar-y-Coed, sy'n gartref i goed Derw hynafol a llwyth o fywyd gwyllt.
Dilynwch y llwybr nes cyrraedd y bont dros Afon Syfni. Arhoswch yma i orffwys cyn troi nôl am y Ganolfan Weithgareddau gan ddilyn yr un llwybr nôl trwy'r goedwig..
0.27m / 0.44km. Mwynhewch yr awyr iach wrth fynd am dro bach hamddenol ar hyd waelod yr argae, a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 10 munud.
• EWCH I’R LLWYBR •6.68m / 10.76km. Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr ar daith gerdded a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.
• EWCH I’R LLWYBR •6.27m / 10.1km. Taith gylchol hyfryd o amgylch y gronfa. Mae’r daith yma’n dilyn llwybr graean a bydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr i’w chwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •