Edmygwch olygfeydd hyfryd y goedwig a chofiwch gadw llygad am adar a bywyd gwyllt ar hyd y ffordd.
Mwynhewch yr awyr iach wrth gwblhau’r tro bach ysgafn yma ar hyd waelod yr argae, a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 10 munud.
Cyfeirnod map 038 242
O'r ganolfan ymwelwyr, ewch lawr am waelod wal yr argae gan ddilyn y ffordd.
Dilynwch lif yr afon o waelod yr argae ar hyd y llwybr i'r goedwig. Cadwch lygad am yr adar a all fod yn nythu yn ein blychau yn y coed ac am fywyd gwyllt arall ar hyd y ffordd.
Dilynwch gylch y llwybr i wneud eich ffordd nôl i wal yr argae, neu torrwch ar draws y llwybr i'r ardd goffa.
Byddwch chi'n gorffen y daith nôl wrth wal yr argae.
0.16m / 0.26km. Amgylchynwch eich hun â golygfeydd prydferth wrth fwynhau tro bach hamddenol 5 munud o hyd o gwmpas yr Ardd Goffa.
• EWCH I’R LLWYBR •0.47m / 0.76km. Mae Eglwys Meilyr Sant o’r 11eg ganrif wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd pryderth ac mae’r lle’n llawn hanes, mwynhewch y daith yma mewn cwta 15 munud.
• EWCH I’R LLWYBR •6.68m / 10.76km. Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr ar daith gerdded a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.
• EWCH I’R LLWYBR •