Llwybrau Beicio Mynydd yn Llyn Llys-y-Frân - Mynediad am Ddim

Llwybrau

Beicio Mynydd

yn Llyn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Llwybrau Beicio Mynydd yn Llyn Llys-y-Frân


Mae yna 2.4km (1.5 milltir) o lwybrau neu rannau ychwanegol i roi cynnig arnynt sy’n mynd a dod oddi ar Brif Lwybr y Gronfa.

Wrth feicio’n wrthglocwedd o amgylch prif lwybr y gronfa fe ddewch chi at 12 adran. Maen nhw’n amrywio o las/cymhedrol i goch/anodd.

Mae’r rhain wedi cael eu dylunio i’ch helpu chi i ddatblygu, ac i herio’ch gallu a’ch hyder.

Mae arwyddion clir â chod lliw i ddangos y gwahanol rannau felly dewiswch antur ar sail lefel eich sgil.

Dylai pob beiciwr ddilyn y llwybr mewn cyfeiriad gwrthglocwedd.

Llwybrau Glas


Llwybr sy’n ddigon ymestynnol mewn mannau. Mae’n cynnwys dringfeydd sy’n galed ond yn weddol fyr. Bydd angen lefel dda o ffitrwydd. Llwybrau tir uchel sy’n gallu bod yn agored i’r elfennau.

Hyd y Llwybr: 300m

Ewch i lawr i’r lan am lwybr un trac sy’n goleddfu i fyny ac i lawr â rhan greigiog opsiynol graddfa las.

Hyd y Llwybr: 1000m

Igam-ogamwch i ben wal y chwarel â nodwedd glogfaen opsiynol graddfa goch cyn disgyn yn hwyliog i lawr y bryn gan lifo i mewn ac allan o’r coed.

Hyd y Llwybr: 750m

Dringfa ysgafn araf trwy goedwig ddwys cyn disgyn yn braf ar hyd llwybr hir a thonnog sy’n igam-gamu trwy’r coed mawreddog i ymuno â’r brif drac.

Hyd y Llwybr: 750m

Torrwch drwy rhan o lwybr hen glawdd gan ddisgyn dros y bont a chilfach y nant. Dringwch nôl i ben i goedwig ar draws bont y lan ogleddol i gyrraedd pwynt uchaf y safle lle cewch fwynhau golygfeydd o’r argae a Chwm Syfynwy. Yn cysylltu’n uniongyrchol â Chwalwr yr Argae.

Hyd y Llwybr: 550m

Igam-ogamwch rhwng rhai o goed mwyaf mawreddog y safle cyn taro darn pedlo rhedynog agored gyda neidiau un ar ôl y llall, ac i mewn i hen dyfiant trwchus lle mae rhai o goed mwyaf y safle. Bydd carped o glychau’r gog yma yn y gwanwyn.

Hyd y Llwybr: 225m

Dringwch trwy’r golau brith mewn coedwig llawn rhedyn sy’n agor allan ac yn rolio trwy redyn trwchus â golygfeydd godidog o’r llyn.

Hyd y Llwybr: 750m

Ewch i lawr i lan y llyn ar hyd lwybr un trac braf sy’n llifo i mewn ac allan o’r coed cyn gwastatáu a mynd i lawr tua’r gronfa. Cadwch lygad yn agored am ddyfrgwn, glas y dorlan a bylbiau’r gwanwyn yn yr ardal gadwraeth arbennig yma.

Llwybrau Coch


Llwybr ymestynnol. Dringfeydd hir a pharhaus ar bob cam. Llwybrau lefel uchel sy’n gallu bod yn agored i’r elfennau. Mae lefel uchal o ffitrwydd yn hanfodol.

Hyd y Llwybr: 300m

Dechreuwch eich antur dros ysgafellau a rholwyr tebyg i’r ardal sgiliau ar y llwybr llif bach yma.

• AR GAU MAWRTH 2023 •

Hyd y Llwybr: 1000m

O’r uchelfannau, reidiwch ddisgynfa dechnegol serth llawn troeon ac ysgafellau i ddyfnderoedd cysgodol y cwm islaw, a’r bont sy’n croesi dwy nant. Wedyn mae dringfa dwyllodrus i fyny ochr y cwm cyn disgyn yn gyflym heibio i ragor o frigiadau creigiog a choed llawn mwsogl.

Hyd y Llwybr: 900m

Dringfa greigiog dechnegol i ben y clogwyn lle mae golygfeydd godidog o’r gronfa. Yn y llethrau uchel byddwch yn pasio brigiadau creigiog cyn disgyn trwy lwybrau creigiog naturiol, disgynfeydd a nodweddion du opsiynol sy’n llifo trwy hen goetiroedd.

Hyd y Llwybr: 400m

Fel rhuban cordeddog o faw, mae’r llwybr yma’n llifo ar draws y cae trwy rolwyr, neidiau ac ysgafellau i drac denau cyflym a throellog. Croeswch y bont dros y ceunant ar y lan ogleddol a thaclwch disgynfa fach serth cyn cychwyn i lawr rhan olaf y llwybr.

Hyd y Llwybr: 1000m

Dyma ddisgynfa cyflym sy’n goleddfu gyda rholwyr, neidiau ac ysgafellau mawr sy’n troi’n droeon tynn trwy’r goedwig, mae creigiau a gwreiddiau agored yma ac acw, a disgynfeydd sydyn cyn gorffen ger wal yr argae.

Rhannwch â Gofal


Mae cerddwyr a beicwyr yn rhannu’r llwybrau hyn, cofiwch fod yn ystyriol ac yn barchus at eich gilydd.

Er bod blaenoriaeth i gerddwyr, plis gadewch i feicwyr basio’n ddiogel. Beicwyr i reidio’r llwybrau mewn cyfeiriad gwrthglocwedd.

•      Cadwch i’r chwith, pasiwch ar y dde

•     Mynnwch gael eich gweld a’ch clywed, cadwch yn ddiogel

•      Defnyddiwch oleuadau os yw’n dywyll neu’n gymylog

•      Pasiwch yn ofalus ac yn araf

•      Rhoddir blaenoriaeth i gerddwyr

•      Reidiwch ar gyflymdra call

•     Arafwch lle na allwch weld beth sy’n dod

•      Defnyddiwch y biniau neu ewch â’ch sbwriel adref

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Y Llwybr Beicio i Deuluoedd

3.19m / 5.13km. Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr wrth feicio ar hyd y Llwybr i Deuluoedd.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Beicio’r Gronfa

6.27m / 10.1km. Mwynhewch reid cyffrous ar eich taith trwy’r coed wrth fwynhau golygfeydd hyfryd y goedwig.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded y Felindre i Deuluoedd

6.68m / 10.76km. Mwynhewch hyfrydwch y goedwig a’r golygfeydd bendigedig o’r dŵr ar daith gerdded a fydd yn cymryd ychydig yn llai na 3 awr.

• EWCH I’R LLWYBR •

.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU