Padlo Gorllewin Cymru - Llys-y-Frân - Welsh Water

Dewch allan ar y Dŵr

Padlo

yn Llyn Llys-y-Frân

Dewch allan ar y Dŵr

Padlo

yn Llyn Llys-y-Frân

Dewch allan ar y Dŵr

Padlo

yn Llyn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Padlo Llys-y-frân Lake


Mae gennym ddigonedd o offer i chi eu llogi, gan gynnwys rhwyf-fyrddau, caiacs a chanŵs.

Os oes gennych chi’ch offer eich hun a’ch bod chi’n hyderus ar y dŵr, gallwch dalu a chwarae gyda’n hopsiwn hunan-lansio.

Llogi


Mae rhwyf-fyrddio’n hwyl ac yn amrywiol, sy’n golygu bod antur yn rhwydd o fewn eich cyrraedd!

Mae caiacio’n weithgaredd gwych y gall unrhyw un o unrhyw oedran ei fwynhau.

Canŵ yw’r cwch perffaith am ddiwrnod i’r brenin fel cwpwl neu am daith padlo fel teulu.

Bydd pris llogi’n cynnwys defnyddio ein siwt wlyb a chymorth hynofedd, neu gallwch wisgo’ch rhai eich hunain.

Rhwyf-fyrddio (SUP)

Rhwyf-fyrddio yw un o’r chwaraeon padlo sy’n tyfu’r cyflymaf am ei bod hi’n ffordd wych o gychwyn gweithgareddau ar y dŵr. Gall unrhyw un, waeth beth fo’u gallu, ddringo ar y bwrdd a symud mewn llinell syth. Mae’r byrddau i ddechreuwyr yn sefydlog iawn, gan ganiatáu i’r rhan fwyaf o bobl sefyll a phadlo cyn pen dim. Mae penlinio’n opsiwn hefyd er mwyn crwydro’n hamddenol.

• BWCIO NAWR •

Caiac

Y bwriad yw i chi eistedd ar ben ein caiacs â’ch coesau o’ch blaen wrth ddefnyddio padl â dwy lafn i lywio’r cwch. Gyda’r opsiwn o gaiac i un, dau neu dri pherson, gallwch badlo ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau a pherthnasau.

• BWCIO NAWR •

Canŵ

Mae’r canŵ’n fath poblogaidd o gwch sydd wedi cael ei ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd. Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer padlo hamdden heddiw, yn aml ar lynnoedd prydferth fel Llys-y-frân, ac mae yna ddigon o le ar gyfer sawl person, offer ac efallai picnic am y diwrnod hefyd?

• BWCIO NAWR •

Hunan-Lansio


Lansiwch eich offer padlo eich hun i grwydro Llyn Llys-y-frân, a mwynhewch y golygfeydd godidog a’r bywyd gwyllt o safbwynt gwahanol.

Dylid nodi bod angen Yswiriant Atebolrwydd Trydydd Parti i hunan-lansio, a byddwn ni’n gofyn am gael gweld tystiolaeth o hyn. Mae yswiriant ar gael trwy Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol fel Canŵio Cymru a’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol.

• BWCIO NAWR •

Padlo i Blant


Mae’r holl weithgareddau dŵr uchod ar gael i blant dros chwech oed, ond mae yna reolau arbennig ar gyfer grwpiau oedran penodol.

OedranGweithgareddReolau
4-5Cwch Hamdden, Canŵ Agored, Caiac i DeuluYn gallu mynd allan ar y dŵr, ond yyda dau oedolyn (18+ oed)
6-7Cwch Hamdden, Canŵ Agored, Caiac i Deulu, Caiac i Ddau a Rhwyf-fwrdd (rhannu â 18+ oed)Yn gallu mynd allan ar y dŵr, ond yyda dau oedolyn (18+ oed)
8-13Unrhyw offer (Ac Eithrio Cychod Hamdden)Eich offer eich hun ag oedolyn (18+ oed) allan ar y dŵr ar wahân.
14-17Unrhyw offer (Ac Eithrio Cychod Hamdden)Eich offer eich hun ag oedolyn (18+ oed) ar y dŵr neu’r lan.
18+Unrhyw offeryn amodol ar Amodau a Thelerau

Hanfodio Padlo


Mae gennym gyfleusterau newid gyda chawodydd cynnes a thai bach. Mae loceri ar gael am dâl ad-daladwy o £1.00.

Wrth logi ein hoffer, cewch gymorth hynofedd a siwt wlyb.


Beth fydd ei angen arna’i?

Gwisg nofio i’w wisgo o dan eich siwt wlyb.

Dillad sych i newid wedyn

Tywel

Eli haul

Potel o ddŵr

Esgidiau sy’n gorchuddio bysedd y traed

Dylid nodi bod esgidiau sy’n gorchuddio bysedd y traed yn hanfodol ar gyfer padlo, a rhaid eu gwisgo bob amser. Nid yw Crocs a Sliders yn addas.


Ni chaniateir unrhyw fynediad diawdurdod i’r dŵr.

Caniateir nofio dŵr agored yn rhan o sesiynau pwrpasol dan reolaeth dynn yn unig, a rhaid bwcio’r rhain ymlaen llaw.

• RHESTR BRISIAU •

Anturiaethau dan arweiniad hyfforddwyr


Cyrsiau Chwaraeon Dŵr Achrededig (Oedolion/Ieuenctid)

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau chwaraeon dŵr achrededig i fynd â chi bob cam o fod yn ddechreuwr i lefel uwch.

• MANYLION PELLACH •

Cyrsiau a Gweithgareddau Chwaraeon Dŵr i Bobl Ifanc

Mae Llys-y-frân yn ganolfan ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau dŵr i bobl ifanc, gan gynnwys cyrsiau achrededig, clwb ar ôl ysgol a sesiynau antur i bobl ifanc.

• MANYLION PELLACH •

Taith Canŵ Bywyd Gwyllt (gydag Arweinydd)

Gyda’n tywysydd yn arwain y ffordd, chwiliwch am ryfeddodau bywyd gwyllt wrth fwynhau profiad hudolus a braf i bobl o bob oedran. Teithiwch dros y dŵr gan fwynhau llonyddwch

• BWCIO NAWR •

Rhwyfo fin nos

Llogwch ganŵ, caiac neu rwyf-fwrdd ac ewch allan ar y dŵr. Ymgollwch yn y golygfeydd godidog a’r bywyd gwyllt bendigedig wrth weld y llyn o safbwynt hollol newydd. Mae’r sesiynau’n rhedeg pob dydd Sadwrn.

• BWCIO NAWR •

O’r Soffa i SUP

Gyda’n harweiniad arbenigol, cewch grwydro’r llyn a dysgu sut i wella’ch techneg padlo a theimlo’n fwy diogel ar y dŵr. Am £95 am dair sesiwn 2.5 awr gyda hyfforddwr profiadol, mae’n werth rhagorol am arian.

• BWCIO NAWR •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR