Partïon Pen-blwydd - Llys-y-Frân - Welsh Water

Dewch i

Ddathlu

yn Llys-y-Frân

Gan Dŵr Cymru

Partïon Pen-blwydd yn Llys-y-frân


Mae penblwyddi yn Llys-y-frân fel chwa o awyr iach.

Os ydych chi’n chwilio am ffordd wreiddiol, creadigol, hwyliog ond iachus o ddathlu pen-blwydd, dyma’r lle i chi. R’yn ni’n darparu ar gyfer partïon plant o bob oedran, a’n nod yw tynnu’r straen o’r broses o drefnu parti.

 digonedd o le yn yr awyr agored i’w fwynhau, ac ystafell barti wedi ei haddurno at yr achlysur, byddwn ni’n sicrhau bod pen-blwydd eich plentyn yn ddiwrnod i’w gofio. Cewch groeso gan berson penodol a fydd yn gofalu am eich criw trwy gydol y parti.

Pen-blwyddi yn Llys-y-frân – gweithiwch gyda’n cynllunwyr parti arbenigol i greu’r pecyn perffaith.

I blant 6+ oed (heblaw taflu bwyeill, sydd i blant 10+ oed).

• GWELD PAMFFLED •

Pecynnau Parti

Pecyn Gweithgareddau Tir Sych

Dewis o Saethyddiaeth, Taflu Bwyeill, Wal Ddringo, Beicio Mynydd neu Gyfeiriannu.

Pecyn Gweithgareddau ar y Dŵr

Dewis o Rwyf-fyrddio, Rhwyf-fyrddio Bwrdd Mawr, Pedalfyrddio, Caiacio neu Ganwio.

Manylion Bwcio – Y Pecyn Gweithgareddau Tir Sych

Bwciwch eich parti ar lein trwy glicio ar y llun uchod, neu ffoniwch: 01437 532273 Pan fyddwch wedi bwcio’ch parti, byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu eich dewis o ran bwydlen. Mae dewisiadau blasus ar gael, ac rydyn ni’n darparu ar gyfer pob math o anghenion dietegol. Cewch ddewis o fwffe oer neu fwyd poeth, a’r cyfan wedi ei baratoi’n fewnol.

• BWCIO •

Manylion Bwcio – Y Pecyn Chwaraeon Dŵr:

Bwciwch eich parti ar lein trwy glicio ar y llun uchod, neu ffoniwch: 01437 532273 Pan fyddwch wedi bwcio’ch parti, byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu eich dewis o ran bwydlen. Mae dewisiadau blasus ar gael, ac rydyn ni’n darparu ar gyfer pob math o anghenion dietegol. Cewch ddewis o fwffe oer neu fwyd poeth, a’r cyfan wedi ei baratoi’n fewnol.

• BWCIO •

Nodyn

Bydd angen i’r criw parti ddod â dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr awyr agored, er bod cynlluniau wrth gefn ar gael am weithgareddau dan do os yw’r tywydd yn wlyb. Fydd diferyn o law ddim yn atal yr hwyl yn Llys-y-frân!

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU