Os caiff yr archeb ei chanslo fwy na 48 awr cyn amser dechrau’r gweithgaredd bydd ad-daliad llawn yn cael ei wneud i’r cerdyn credyd a ddefnyddiwyd.
Os caiff yr archeb ei chanslo rhwng 24 a 4 awr cyn amser dechrau’r gweithgaredd, rhoddir tocyn credyd am y swm llawn.
Ni fydd unrhyw ad-daliad na thocyn credyd os caiff yr archeb ei chanslo o fewn 24 awr i amser dechrau’r gweithgaredd.
Os nad yw’r amodau ar y diwrnod yn ddelfrydol ac mae’r cwsmer o’r farn bod yr amodau’n anaddas, ond mae’r gweithgaredd yn dal i fynd yn ei flaen, gall y cwsmer ddewis aildrefnu neu gael tocyn credyd.
Os bydd Llyn Llandegfedd yn canslo archeb am unrhyw reswm, bydd ad-daliad llawn yn cael ei dalu i’r cerdyn credyd a ddefnyddiwyd. Os byddai’n well gan y cwsmer gael tocyn credyd, gellir gwneud hyn. Os mai argyfwng meddygol, gan gynnwys prawf COVID-19 positif, yw’r rheswm dros ganslo, byddwn yn ad-dalu i docyn credyd.