Pysgota o'r Lan ac o Gwch yn Llyn Llys-y-Frân | Dŵr Cymrui

Bachwch Arni

wrth Bysgota

yn Llyn Llys-y-Frân

Ar agor trwy’r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

Hysbysiad i Bysgotwyr

O ganlyniad i’r cyfnod estynedig o dywydd sych a’r ffaith fod lefelau’r dŵr wedi disgyn, mae glannau’r cronfeydd wedi dod yn fwyfwy agored a pheryglus. Mae’r peryglon y mae llaid trwchus a llethrau serth o gerrig mân a llithrig yn eu hachosi i bysgotwyr yn ddifrifol, ac ni allwn eu hanwybyddu.

Mae diogelwch ein cymuned pysgota’n bwysig iawn i ni. Am hynny, rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal pysgota o’r lan yn Llys-y-frân.

At hynny, ac eto am resymau diogelwch am fod lefel y dŵr wedi disgyn, bu angen i ni symud yr ardal lansio a’r pontŵn. Yn anffodus, mae hynny’n golygu na allwn lansio ein cychod pysgota am y tro. Mae’n flin gennym ddweud felly y bu angen atal pysgota o gychod am y dyfodol rhagweladwy hefyd.

Cyn gynted ag y bo’n ddiogel i ni wneud hynny, byddwn ni’n ailagor y gronfa i bysgotwyr.

Pysgota yn Llyn Llys-y-Frân


Mae’r amodau yma’n berffaith i bysgota o’r lan neu o gwch.

Rydyn ni’n stocio’r llyn â brithyll seithliw’n rheolaidd a gallech ddal brithyll llwyd hefyd.

Caniateir pysgota â phlu ac ag abwyd canllaw o’r ardaloedd pysgota ar y lan ac â phlu yn unig o gychod.

• BWCIO NAWR •

Amddiffyn ein dyfrgwn


Er mwyn helpu i amddiffyn ein dyfrgwn, cyfyngir ar fannau angori cychod a mynediad at ardaloedd sensitif. Gweler y map.

Ewch Allan ar y Dŵr


Llogi Cychod

Rhowch gynnig ar un o’n cychod injan trydan newydd sbon sydd mor syml i’w gweithredu.

Hawlenni

Prynwch eich eich hawlen bysgota ar lein, neu i gael rhagor o fanylion gan gynnwys tymhorau, amserau a rheoliadau pysgota, cysylltwch â’r Ganolfan Ymwelwyr neu’r Ganolfan Weithgareddau.

Cyfleusterau i Bobl Anabl

Our accessible Wheelyboats are not available for hire right now. Sorry for any inconvenience.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU