Pethau i'w Gwneud yn Sir Benfro - Llys-y-Frân - Welsh Water

Ymweld â

Sir Benfro

Gorllewin Cymru

Gan Dŵr Cymru

Pethau i’w gwneud yn Sir Benfro


Mae’r môr yn amgylchynnu Sir Benfro o bob ochr ac ar ddiwrnod clir, gallwch well yr holl ffordd i Iwerddon mewn mannau.

Hafan ar gyfer bywyd gwyllt, cerdded a bwyd môr hollol ffres; a’r cyfan mewn tirwedd wyllt a hynod o brydferth.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n cynnig 186 milltir o lwybrau sy’n ymddolenni heibio i gilfachau a harbyrau, a dros 50 o draethau a thrwy drefi a phentrefi bywiog.

Anturiaethau Eraill i’w Darganfod


Mae’n sicr fod genym ddigon i’ch cadw chi’n brysur am ddyddiau!

Mae Sir Benfro’n lle bendigedig am wyliau teuluol – parciau antur, cestyll, teithiau cwch a gwyliau. Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ychwanegu ein cynnig unigryw ni at y gyrchfan yma sy’n hyfryd drwy gydol y flwyddyn.

Ewch i Visit Pembrokeshire  i weld rhagor o weithgareddau yn yr ardal.

Aros

Mae gan Sir Benfro’r cyfan, o westai modern i fythynnod hunanddarpar a gwely a brecwast. A gyda dewis mor helaeth o lety mae yna rywbeth at ddant ac at gyllideb pawb. Rydyn ni wrthi’n datblygu cyfleusterau gwersylla a byddwn ni’n cyhoeddi’r manylion yn fuan. Mae’r cynlluniau’n cynnwys 50+ o leiniau amrywiol, o leiniau caled â’r holl wasanaethau i leiniau glaswellt sylfaenol. Bydd ein maes gwersylla’n manteisio ar amwynderau fel cysylltiadau trydan, pwyntiau dŵr, toiledau a chawodydd, ardal golchi llestri a mynediad at brif gyfleusterau’r safle fel y caffi, y maes chwarae a’r gweithgareddau. Llun: Llety Castell Roch.

Gweld a Gwneud

A tra’ch bod chi yn yr ardal, beth am deithio nôl i oes cynhanesyddol ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, aros ar y traeth yn Saundersfoot neu sgwrsio â’r anfeiliaid yn Folly Farm? Mae Sir Benfro’n lle gwych i fwtya ac yfed hefyd, ac yn enwog am ei fwyd môr ffres a seigiau o’r cynnyrch lleol gorau. Cadwch lygad am Nod Cynnyrch Sir Benfro wrth brynu’n lleol. Mae’r logo’n dangos bod y cynnyrch wedi cael ei greu yn Sir Benfro ac mae’n cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod, artistiaid a chrefftwyr, sefydliadau lletygarwch sy’n defnyddio bwyd a diod Sir Benfro ar eu bwydlenni, ac allfeydd adwerthu sy’n gwerthu eitemau lleol.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU