Mae dŵr wrth galon popeth yma, ond mae digonedd i’w wneud ar dir sych hefyd.
Gyda dros 350 erw i’w mwynhau, mae gennym amrywiaeth cyffrous o weithgareddau i bobl o bob oedran a gallu. Dysgwch grefft hynafol taflu bwyeill neu rhowch gynnig ar saethyddiaeth. Neu beth am geisio taclo ein wal ddringo 7m newydd?
Uchafbwynt arall yw ein Crazi-Bugz, bygis chwe-olwyyn oddi ar y ffordd i anturiaethwyr ifanc.
Dyma’ch cyfle chi i fod yn Ryfelwr Dŵr Cymru! Deffrwch y Celt sydd ynoch chi er mwyn dysgu sgiliau a thechnegau hynafol taflu bwyeill. Ffordd gyffrous o ymarfer corff, bydd y sesiwn yn cynnig cyflwyniad i hanfodion technegau taflu bwyeill.
• BWCIWCH NAWR •Dyma brofiad gyrru cerbydau trydan oddi ar y ffordd sydd heb ei ail. Mae’r rhain wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer pob math o dirwedd ac maen nhw’n addas i anturiaethwyr 6-16 oed. Prawf hwyliog o sgil a chydsymud sy’n cynnig teimlad o ryddid mewn amgylchedd diogel. Cadw’r oedolion rhag bachu tro fydd y sialens fwyaf, ond mae digonedd i’r plant mawr ei wneud yma hefyd!
• BWCIWCH NAWR •Anelwch yn uchel a rhowch gynnig ar ein wal ddringo newydd sbon. Yn sefyll dros 7 metr o uchder mae’n gyflwyniad gwych i ddringo ac yn ffordd dda o ymarfer corff. Ond a fyddwch chi’n ddigon dewr i roi cynnig ar y naid ffydd? Gweithgaredd gwych am bartïon pen-blwydd a grwpiau o bob oedran a gallu. Gyda system awto-belai hollol fodern, dyma weithgaredd diogel ond cyffrous.
• BWCIWCH NAWR •Mae crefft draddodiadol saethyddiaeth yn ffordd wych o fwynhau hwyl i’r teulu. Mae’n berffaith i bob math o achlysuron fel digwyddiadau magu tîm corfforaethol, partïon pen-blwydd a dathliadau preifat.
• BWCIWCH NAWR •