Yr Ardal Ymarfer Cŵn Llys-y-frân - Dŵr Cymru

Yr Ardal Ymarfer

Cŵn

yn Llys-y-frân

Gan Dŵr Cymru

Yr Ardal Ymarfer Cŵn yn Llys-y-frân


Pyst Igam-Ogamu

Si-so

Brigdrawst

Cylch Neidio

Croeso i Ardal Ymarfer Cŵn Llys-y-frân – neu nefoedd y cŵn!

Mae ymarfer corff yn hanfodol i iechyd cŵn, ac er bod yn ddigon o gyfleoedd i fynd â chŵn am dro ar draws ystâd Llys-y-frân, mae’r parc ymarfer yn cynnig y cyfle i’w hymarfer oddi ar eu tennyn.

Ac mae’r perchnogion yn cael tipyn o ymarfer corff hefyd!

Cewch ddefnyddio’r ardal hon am ddim ac fe’i lleolir yr ochr draw i’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r offer yn cynnwys cylch neidio, pyst igam-ogamu, brigdrawst a si-so.

Croeso i Berchnogion Da


Mae croeso cynnes i gŵn yn Llys-y-frân bob amser, ond hoffem atgoffa ymwelwyr taw’r Ardal Ymarfer Cŵn yw’r unig fan lle gellir cadw cŵn oddi ar eu tennyn. Dylid cadw cŵn ar dennyn ym mhob man arall – gan gynnwys y llwybr sy’n amgylchynu’r gronfa – ac allan o’r dŵr.

Mae hyn er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y bywyd gwyllt. Mae Llys-y-frân yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n golygu fod gennym gynefinoedd a rhywogaethau pwysig a bregus i’w hamddiffyn. Mae cadw cŵn ar dennyn yn helpu i amddiffyn y rhain ac yn atal baw cŵn mewn ardaloedd a amddiffynnir.

Mae cŵn ar dennyn yn haws eu rheoli ar ein llwybrau beicio hefyd, sy’n lleihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiad ac yn cadw’r holl ymwelwyr yn ddiogel rhag afiechydon sy’n cael eu lledu mewn baw ci, fel Toxocara Canis (sy’n gallu dallu pobl).

Uchafbwyntiau Eraill


Ymweliadau Grŵp

Dim ots a ydych chi’n dod gyda grŵp ysgol, prifysgol neu’n rhan o ddiwrnod ddatblygu tîm corfforaethol, dyma’r lle delfrydol am ymweliad grŵp.

• MANYLION PELLACH •

Pethau i’w Gwneud

Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru ar y dŵr neu ar dir sych. Rydyn ni’n cynnig pysgota, beicio, cerdded a gweithgareddau fel saethyddiaeth a thaflu bwyeill.

• MANYLION PELLACH •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’n Canolfan Ymwelwyr ar ei newydd wedd. Am le gwych i gychwyn eich Antur Dŵr Cymru!

• MANYLION PELLACH •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU