Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru ar y dŵr neu ar dir sych. Rydyn ni’n cynnig chwaraeon dŵr, nofio dŵr agored, pysgota, beicio, cerdded a gweithgareddau fel saehthyddiaeth a thaflu bwyeill.
Nid pob gweithgaredd sy’n digwydd pob dydd ac mae yna amrywiadau tymhorol. Chwiliwch ar y wefan i weld a oes llefydd ar gael a bwciwch y gweithgareddau ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.
Byddwch yn egnïol dros wyliau’r haf ac arbed 20%!
P’un a ydych yn arbenigwr campau dŵr neu awydd roi cynnig arnyn nhw, beth am brynu Taleb Gweithgareddau Gwyliau a’i defnyddio i wneud unrhyw sesiwn gweithgaredd? Os yw’n well gennych dir sych, gallwch roi cynnig ar saethyddiaeth, taflu bwyell, dringo, llogi beic neu Crazi-Bugz.
Bydd taleb gwerth £40 yn rhoi gwerth £50 o gredyd i chi tuag at sawl sesiwn dros gyfnod o 14 diwrnod.
Cliciwch ar y botwm ‘Bwcio Nawr’ isod
Cliciwch ar y blwch ‘taleb neu basio’
Ychwanegwch nifer y talebau sydd eu hangen arnoch i’r fasged a cliciwch ‘Mynd i dalu’
Dewiswch y gweithgareddau yr hoffech ddefnyddio credyd y daleb ar ei gyfer, pan fyddwch wedi ychwanegu eich gweithgareddau i’r fasged, cliciwch ar ‘Mynd i dalu’
Wrth dalu, cliciwch ar ‘Mae gen i daleb neu docyn’
Wrth dalu, cliciwch ar ‘Mae gen i daleb neu docyn’
Nodwch god y daleb yn y blwch a chlicio ‘Cyflwyno’
Rydych chi wedi ei drefnu! Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau.
Os oes credyd ar ôl ar eich taleb, gallwch ei ddefnyddio rywdro arall ar weithgaredd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddefnyddio o fewn 14 diwrnod o’i brynu.
Mwynhewch!