Caffi Glan Llyn - Llys-y-Frân - Welsh Water

Bwytewch, Yfwch a

Mwynhhewch

yn Llyn Llys-y-Frân

Ar agor trwy’r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

Caffi Glan y Llyn


Mwynhewch baned braf, darn o cacen neu bryd cynnes o’n bwydlen dymhorol.

Rydyn ni’n falch o werthu’r cynnyrch Cymreig lleol gorau. Mae ein bwyd yn cael ei baratoi’n ffres, ac mae opsiynau llysieuol a di-glwten ar gael.

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw anghenion dietegol penodol eraill gennych.

Caffi Oriau Agor

Rydyn ni ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae’r oriau agor yn dymhorol

Oriau Agor y Gwanwyn (18 Chwefror – 31 Mawrth)

Dydd Llun – Sul 10:00am – 4:30pm

Mae prydau poeth ar gal rhwng 11.30am a 2:30pm

Oriau Agor yr Haf (1 Ebrill – 30 Medi)

Dydd Llun – Sul 9:00am – 4.30pm

Mae prydau poeth ar gal rhwng 11.30am a 2:30pm

Winter Opening Hours (1 October – 17 February)

Dydd Llun – Sul 10:00am – 3:30pm

Mae prydau poeth ar gal rhwng 11.30am a 2:30pm

Siop Anrhegion


Galwch heibio i’n siop anrhegion newydd i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad neu rodd i rywun annwyl.

Rydyn ni’n gwerthu cynnyrch lleol, crefftwaith artistiaid lleol, tlysau unigryw, addurniadau i’r cartref, llestri a phrintiau hyfryd gan ffotografwyr lleol.

Uchafbwyntiau Eraill


Ymweliadau Grŵp

Dim ots a ydych chi’n dod gyda grŵp ysgol, prifysgol neu’n rhan o ddiwrnod ddatblygu tîm corfforaethol, dyma’r lle delfrydol am ymweliad grŵp.

• MANYLION PELLACH •

Pethau i’w Gwneud

Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru ar y dŵr neu ar dir sych. Rydyn ni’n cynnig chwaraeon dŵr, pysgota, beicio, cerdded a gweithgareddau fel saethyddiaeth a thaflu bwyeill. Ac mae gennym wal ddringo 7 metr newydd sbon hefyd.

• MANYLION PELLACH •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’n Canolfan Ymwelwyr ar ei newydd wedd. Am le gwych i gychwyn eich Antur Dŵr Cymru!

• MANYLION PELLACH •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU