Y Maes Chwarae Antur yn Llyn Llys-y-Frân
Llinell Sip
Siglenni
Ardal Bicnic
Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig manteision lu i iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc, a’r rhai ifanc eu hysbryd hefyd, felly mae ymweliad â’r fan yma’n beth dda i bawb. Mae hi yn y lle delfrydol ger y Ganolfan Ymwelwyr â golygfeydd di-ben-draw dros y dŵr. Mae hynny’n golygu y gallwch gadw llygad barcud ar y plant wrth fwynhau diod i’w chludo o’r caffi yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae’r ardal chwarae fawr yn cynnig siglenni, llithrenni, fframiau dringo, offer siglo a’r llinell sip poblogaidd. Galwch draw cyn neu ar ôl mwynhau heddwch braf y goedwig a’r llynnoedd, ond cofiwch alw draw.
Lle diogel i’r rhai sydd ag egni i’w sbario i redeg yn wyllt a mwynhau’r awyr iach. Mae’n ddigon posibl y gwelwch chi ambell i dad cystadleuol yn ei gynefin yn siglo ar y bariau mwnci hefyd.
Rhaid cadw plant dan oruchwyliaeth bob amser yn y Maes Chwarae Antur, ond nid yw’n hanfodol i oedolion wibio i lawr y llinell sip (er mae’n siŵr y bydd hi’n demptasiwn). Ni chaniateir cŵn yn yr ardal hon – ond mae gennym barc cŵn pwrpasol ar eu cyfer nhw.
Awgrym defnyddiol – caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich ymweliad am na fydd y plantos eisiau gadael!