Dim ots a ydych chi gydag ysgol, prifysgol neu’n chwilio am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd corfforaethol, Llys-y-frân yw’r lle perffaith i gynnal gweithgareddau grŵp.
Gallwn deilwra ymweliadau ar gyfer grwpiau ysgol a phrifysgol o unrhyw oedran a gallu, gan gynnig offer o safon a hyfforddiant arbenigol.
Ar gyfer diwrnodau cwrdd i ffwrdd corfforaethol, gallwn drefnu rhaglen bwrpasol o weithgareddau meithrin tîm ar y cyd â’r cleient.
Rydyn ni’n croesawu grwpiau Brownis, Geids, Cybs a Sgowtiaid, yn ogystal â grwpiau Gwobr Dug Caeredin, Sefydliad y Merched, u3a a phopeth yn y canol.
Cewch barcio ar y safle am ddim wrth fwcio ymlaen llaw, a chroeso i chi ddod â bysys mini a bysys bach.
Mae sesiynau’n cael eu trefnu o gylch gofynion pob grŵp, a gallant gynnwys cyfuniad o weithgareddau neu gyrsiau e.e. i gyflawni cymwysterau corff llywodraethu penodol.
Am gyflwyniad sylfaenol i weithgaredd dŵr, rydyn ni’n argymell sesiwn blasu 45-60 munud o hyd.
Am brofiad mwy manwl gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau, rydyn ni’n argymell tua 60-120 munud y gweithgaredd.
Ar gyfer gweithgareddau tir sych, rydyn ni’n argymell rhwng 30 a 60 munud y gweithgaredd.
Cydnabod y Risgiau Rhaid o bawb sy’n cymryd rhan lenwi ffurflen cydnabod risg cyn cymryd rhan; gellir anfon y rhain trwy e-bost, neu eu cyflwyno wrth gyrraedd.
Esgidiau ar gyfer Gweithgareddau Dŵr: Rhaid gwisgo esgidiau addas sy’n gorchuddio bysedd y traed, fel esgidiau chwaraeon dŵr, esgidiau traeth neu hen esgidiau chwaraeon. Ni chaniateir fflip-fflops na sandalau.
Offer Diogelwch: Rhaid gwisgo cymorth hynofedd ar gyfer gweithgareddau dŵr, a rhaid i unrhyw un sydd o dan 18 oed wisgo helmed.
Siwtiau Gwlyb: Gellir darparu siwtiau gwlyb yn dibynnu ar y tywydd a’r tymheredd ar y diwrnod.
Dillad nofio: Atgoffwch bawb sy’n cymryd ran i ddod â’u dillad nofio eu hunain i’w gwisgo o dan y siwtiau gwlyb, ynghyd â thywel.
Dillad ar gyfer Gweithgareddau Tir Sych: Gwisgwch ddillad sy’n addas at y tywydd ac esgidiau sy’n gorchuddio bysedd y traed; dylid nodi bod y cwrs cyfeiriannu’n cynnwys cerdded ymhellach o’r ganolfan.
Paratoi at y Tywydd: Dewch yn barod am y tywydd gyda hanfodion fel dillad glaw, eli haul a hetiau haul.
Lluniaeth: Mae caffi ar y safle sy’n gwerthu bwydydd poeth ac amrywiaeth o ddiodydd poeth/oer. Caniatewch ddigon o amser i archebu neu drefnu archeb cyn amser cinio er mwyn sicrhau bod eich grŵp yn cael bwyta gyda’i gilydd.
Er mwyn sicrhau bod eich ymweliad yn hollol ddidrafferth rydyn ni’n gofyn bod grwpiau’n bwcio o leiaf bythefnos ymlaen llaw.
Rhaid bwcio ar gyfer grwpiau mawr.
I gyflwyno ymholiad a thrafod yr holl opsiynau ar gyfer diwrnod allan, e-bostiwch llysyfran@dwrcymru.com neu ffoniwch 01437 532273.
| Amser | Grŵp A | Grŵp B | Grŵp C | Grŵp D |
|---|---|---|---|---|
| 9:00-9:30 | Cyrraedd a Chroeso | |||
| 9:30-10:00 | Gwisgo siwtiau gwlyb | |||
| 10:00-11:00 | SUP | Caiacio | Canŵio | Adeiladu rafftiau |
| 11:00-12:00 | Adeiladu rafftiau | SUP | Caiacio | Canŵio |
| 12:00-12:40 | Cinio | |||
| 12:40-13:40 | Canŵio | Adeiladu rafftiau | SUP | Caiacio |
| 13:40-14:40 | Caiacio | Canŵio | Adeiladu rafftiau | SUP |
| 14:40-15:10 | Tynnu siwtiau gwlyb | |||
| 15:30 | Gadael | |||