Beicio yn Llys-y-Frân | Llwybrau Beicio a Llogi Beics - Mynediad am Ddim

Anturiaethau ar

Gefn Beic

yn Llyn Llys-y-Frân

Ar agor trwy’r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

Yr Hyb Beicio yn Llyn Llys-y-Frân


Gyda dros 14km (bron i 9 milltir) o lwybrau i’w crwydro, hwn yw o’r lleoliadau gorau i feicio yn Sir Benfro.

Rydyn ni wedi dylunio ac adeiladu llwybrau beicio mynydd pwrpasol, traciau pympio ac ardal sgiliau pympio.

Mae’r ychwanegiadau gwych yma’n golygu taw dyma un o’r llefydd gorau i feicio yn Sir Benfro erbyn hyn.

Rydyn ni’n croesawu pobl o bob oedran a gallu – dewch i feicio gyda ni!

Llogi Beics


Yma gallwch logi beics o amrywiaeth o feintiau ar gyfer oedolion a phlant, a threlars beics hefyd, i grwydro’r llwybrau newydd.

Argymhellir bwcio ar lein ymlaen llaw er mwyn osgoi siom, yn enwedig os ydych chi’n dod fel grŵp.

Noder: rhaid dangos tystiolaeth sy’n profi pwy ydych chi wrth logi, fel pasbort dilys, trwydded yrru neu gerdyn banc. Mae’r amodau a thelerau llogi ar gael ar gais, a rhaid llofnodi ffurflen bwcio sy’n cydnabod eich bod wedi darllen yr amodau a’r telerau hyn adeg llogi.  

• PRISIAU •

Yr Hyb Llogi Beics a’r Gweithdy Trwsio


Lleolir ein hyb beics yn y ganolfan weithgareddau. Mae gennym amrywiaeth o feics i blant ac oedolion gan gynnwys e-feics, beiciau tynnu a threlars i’w llogi. Os ydych chi wedi dod â’ch beic eich hun, mae gennym ni’r holl offer sydd eu hangen arnoch i’w drwsio. Mae gennym orsaf golchi beics i glirio’r mwd cyn troi am adref ar ôl eich ymweliad hefyd.

Dewiswch eich Llwybr Beicio


Dewiswch un o’n tri llwybr. Teimlo’n anturus? Beth am roi cynnig ar un o’n llwybrau Beicio Mynydd?

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU