Am Lyn Llys-y-frân: Ein Stori
Agorwyd y gronfa gan EM y Dywysoges Margaret ym 1972. Y gronfa sy’n cyflenwi dŵr y rhan fwyaf o gartrefi a diwydiannau de Sir Benfro. Mae’r argae yn gampwaith peirianegol, ond mae hi wedi cynnal y dirwedd fel hafan ar gyfer natur a bywyd gwyllt hefyd.
Cwmni nid-er-elw yw Dŵr Cymru. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, sy’n golygu bod pob un geiniog a wnawn yn mynd yn syth ôl i gadw biliau’n isel a gofalu am eich dŵr a’ch amgylchedd prydferth – nawr, ac am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n ffordd well o lawer o wneud pethau.
Cafodd y buddsoddiad pwysig o £4 miliwn yn y ganolfan ymwelwyr a’r cyfleusterau ei ategu gan £1.7 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Nod rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, dan ofal Croeso Cymru, yw creu 11 o gyrchfannau bythgofiadwy ar draws Cymru.
