Llogi Ystafell - Llys-y-Frân - Welsh Water

Llyn Llys-y-Frân

Llogi Ystafelloedd

Cyfarfod a Dathlu

Gweithgareddau Tîm a

Chyfarfodydd

Cyfarfod a Dathlu

Gan Dŵr Cymru

Digon o Lefydd Parcio

Wifi am Ddim

Opsiynau am Weithgareddau

Arlwyaeth ar y Safle

Cymorth Cynadledda

Llogi Ystafelloedd


Ydych chi’n chwilio am y lle delfrydol i gynnal eich achlysur, cynhadledd neu ddathliad?

Llys-y-frân yw’r lle perffaith i gynnal eich achlysur corfforaethol neu’ch dathliad nesaf gyda nifer o opsiynau ar gyfer grwpiau mawr a bach.

Mae ein tîm cynadledda a lletygarwch yno i drafod a gwireddu eich gofynion penodol. Cysylltwch â ni nawr i archwilio’r posibiliadau a llogi’r lle delfrydol yn Llys-y-frân.

Ffoniwch 01437 532 273 neu e-bostiwch llysyfran@dwrcymru.com.

Y Lle Perffaith i Gynnal Digwyddiad â Golygfeydd Bendigedig dros y Gronfa Ddŵr

Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd i’w llogi yn adeiladau’r Ganolfan Ymwelwyr a Gweithgareddau, a gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau o ddeuddeg i gant a mwy.


Yr Ystafell Achlysuron

Mae ein hystafell achlysuron yn lle hyblyg a golau y gellir ei drawsnewid i gyflawni’ch gweledigaeth. Yn agor yn uniongyrchol i’r balconi gyda golygfeydd panoramig o’r gronfa, dyma’r lle perffaith i ddathlu achlysur arbennig. Mae’r siâp ‘L’ eang yn ei gwneud hi’n addas i gynnal arddangosfeydd a ffeiriau masnach, ac mae’n gyfleus i gerbydau, sy’n gwneud gosod yn hawdd. Ym mhen pellaf y prif adeilad, mae’r ystafell yn cynnwys ffenestri ar dair ochr a mynediad uniongyrchol i’r gegin er mwyn gweini bwyd yn hwylus pan fo toriad yn y gynhadledd.


Yr Ystafelloedd Cyfarfod

Os oes angen mannau cyfarfod llai neu lle i gynnal sesiynau ymneilltuo, mae yna ddwy ystafell seinglos yn ein Canolfan Gweithgareddau, y naill a’r llall yn cynnig digon o olau naturiol a system awyru. Mae’r ystafelloedd hyn yn cynnig golygfeydd hyfryd dros y gronfa hefyd, a gellir eu bwcio fesul un neu eu cyfuno’n un ystafell fwy. Mae un ystafell yn agor yn uniongyrchol i’r dec, sy’n berffaith am ddiodydd neu fel lle ymneilltuo ychwanegol.


Yr Ystafell Gyfarfod Fach

Ar gyfer cyfarfodydd bach a chinio busnes, mae gan ein hystafell bwrdd sgriniau teledu rhyngweithiol hollol fodern, sy’n cynnig lle preifat gyda phopeth sydd ei hangen arnoch.


Gerddi’r Gaeaf

O fewn y ganolfan ymwelwyr, mae ardal gerddi’r gaeaf yn cynnig naws llai ffurfiol am ddiodydd gyda’r nos.

Lawrlwytho Llyfryn


Llogi Lleoliadau Ffilm a Theledu


Mae Cymru’n ennill ei blwyf am gynnal achlysuron diwylliannol a chwaraeon o safon ryngwladol. Mae hi wedi dod yn lle poblogaidd ar gyfer ffilmio cynyrchiadau ffilm a theledu lleol a chenedlaethol hefyd. Gallwn gynnig cefndir unigryw a thrawiadol a’r holl gymorth sydd ei angen ar gyfer cynyrchiadau mawr a bach.

Am ragor o fanylion ffoniwch 01437 532 273 neu e-bosiwch llysyfran@dwrcymru.com. Byddwn ni’n hapus i drafod eich anghenion a darparu dyfynbris ar eich cyfer.

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU