Ardal Sgiliau a Thrac Pympio Gorllewin Cymru - Llys-y-Frân - Welsh Water

Ardal Sgiliau

Beicio Mynydd

yn Llyn Llys-y-Frân

Ar agor trwy’r flwyddyn

Gan Dŵr Cymru

Cau yr Ardal Sgiliau Beicio Mynydd Dros Dro

Mae gwaith ailddatblygu wedi dechrau yn Llys-y-frân yn yr ardal o gwmpas y traciau pympio i’r gogledd o’r prif faes parcio. O ganlyniad i hyn, mae’r rhan fwyaf o’r traciau* a’r traciau beicio mynydd Hwyaden,

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud (1) i ailddatblygu’r ardal sgiliau beicio mynydd i greu rhan newydd gyffrous a (2) gwella’r mynediad i wersyll newydd Llys-y-frân (sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd ac yn lansio yn hwyr yn y gwanwyn).

Bydd y ffordd fynediad wedi’i gwella ychydig y tu mewn i ymyl ffin ddwyreiniol yr ystâd ac yn mynd drwy’r cae gwersylla newydd i’r gogledd o’r Ganolfan Weithgareddau. Bydd y rhannau newydd o’r ffyrdd seiclo yn cael eu hadeiladu wrth ymyl y ffordd fynediad a bydd yn cysylltu â’r llwybrau presennol.

Mae Llys-y-fran yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra i seiclwyr a beicwyr mynydd am yr amhariad.

Cyn gynted ag y bydd gennym ddyddiad ailagor penodol, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid ar y wefan.

* Bydd y rhannau tarmac o’r trac pympio yn aros ar agor trwy gydol y gwaith.


Mapio

Sut i fwynhau’r Ardal Sgiliau Pympio


Roliwch nôl gan gywasgu’r breichiau a’r coesau i gadw’n ysgafn ar flaen y nodweddion, a roliwch ymlaen gan ymestyn y breichiau a’r coesau i fod yn drwm ar gefn y nodweddion.

Mater o amseru yw hi! Ar y corneli, edrychwch tua’r ffordd allan gan blygu’r breichiau ac estyn y coesau i godi cyflymdra.

Er eich diogelwch a’ch mwynhad…


Reidiwch y llwybr mewn cyfeiriad gwrthglocwedd bob amser

Gwisgwch helmed bob tro, a gorchuddiwch eich breichiau a’ch coesau o leiaf, ond argymhellir gwisgo offer amddiffynnol personol fel padiau a menig.

Archwiliwch eich beic/offer am ddiogelwch cyn reidio. Gallwch wneud hyn yn ein hyb beicio.

Reidiwch o fewn eich gallu a chadwch eich beic dan reolaeth.

Byddwch yn ymwybodol o’r defnyddwyr eraill, yn enwedig y rhai sy’n disgyn i mewn o wahanol bwyntiau.

Mae’r ardal hon ar gyfer beiciau heb fodur yn unig.

Plis peidiwch â cherdded, chwarae na dringo yn yr ardal hon, mae digonedd o lefydd diogel eraill i wneud hyn.

Uchafbwyntiau Eraill


Llwybrau Beicio

Gyda dros 14km (bron i 9 milltir) o lwybrau i’w crwydro, Llyn Llys-y-Frân yw un o’r llefydd gorau i feicio yn Sir Benfro.

• MANYLION PELLACH •

Pethau i’w Gwneud

Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru ar y dŵr neu ar dir. sych Rydyn ni’n cynnig pysgota, beicio, cerdded a gweithgareddau fel saethyddiaeth a thaflu bwyeill.

• MANYLION PELLACH •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’n Canolfan Ymwelwyr ar ei newydd wedd. Am le gwych i gychwyn eich Antur Dŵr Cymru!

• MANYLION PELLACH •

ATEBION DŴR CROES ERAILL

BWCIO NAWR CAU